Nid yw pob Anabledd yn Weladwy

Awdur Ann Jones AS|MS   |   Cyhoeddwyd 02/12/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2020   |   Amser darllen munud

Blog gan Ann Jones AS

Unwaith eto rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau a’r thema eleni yw ‘Nid yw pob Anabledd yn Weladwy’. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol i bob un ohonom, ac er ein bod yn ymdrechu i addasu’r ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio, rhaid inni sicrhau, beth bynnag a ddaw yn y dyfodol, ei fod yn ddyfodol cynhwysol i bawb.

Mae pobl nad yw eu hanableddau yn amlwg ar unwaith yn wynebu rhwystrau ychwanegol ac mae’n rhaid i ni, fel cymdeithas, geisio gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anableddau o’r fath, a’u heffaith. Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi ar bobl yn defnyddio llinynnau gwddf Blodyn yr Haul mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y pandemig. Mae hon yn ffordd i nodi bod gennych anabledd cudd a bod gennych reswm da dros beidio â gwisgo gorchudd wyneb neu i nodi bod angen lefel o gefnogaeth neu ddealltwriaeth arnoch. Bydd y math hwn o gynllun, gobeithio, yn cael effaith gadarnhaol ac mae’n gynllun, rwy’n gobeithio, y gallwn ei hyrwyddo ar gyfer y dyfodol.

Yn ystod fy nghyfnod fel gwleidydd etholedig rwyf wastad wedi ceisio hyrwyddo cydraddoldeb, gan fy mod yn credu’n gryf y dylai ein cynrychiolwyr etholedig adlewyrchu ein cymdeithas amrywiol. Fel seneddwr ag anabledd, bum wastad yn barod i godi llais ar faterion sy’n effeithio ar y rhai sydd ag anghenion gwahanol, a byddaf yn parhau i weithio tuag at y nod o sicrhau cymdeithas sy’n wirioneddol gyfartal i bawb.

Rwyf wedi darganfod yn aml y gall tynnu sylw at yr angen am addasiadau syml (ond a anwybyddir yn rhy aml) wneud cymaint o wahaniaeth; pethau fel sicrhau bod rheiliau llaw ar ddwy ochr ramp a / neu risiau gan fod hynny’n gallu rhoi annibyniaeth a hyder i berson ag anabledd. Rwyf hefyd yn awyddus i bwysleisio bod angen i ni’i gyd ystyried defnyddio ein seneddau cynyddol dechnolegol er budd pawb. Mae’r Senedd yn wir yn esiampl i bawb, ond mae rhagor i’w wneud o hyd, a rhaid i ni beidio â llaesu dwylo. 

Yn 2017, cefais yr anrhydedd o fynd i gynhadledd agoriadol ‘Seneddwyr y Gymanwlad ag Anableddau’ (CPwD).  Ein nod yw cefnogi Seneddwyr ag anableddau i fod yn fwy effeithiol yn eu rolau a helpu i wella ymwybyddiaeth o faterion anabledd ymhlith yr holl Seneddwyr a staff seneddol. Yn ychwanegol at hyn rydym yn gobeithio helpu i chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl ag anableddau rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Ym mis Medi roeddwn wrth fy modd fy mod wedi cael fy ethol yn un o naw Hyrwyddwr Rhanbarthol i helpu i arwain gwaith y CPwD. Yn ystod fy nghyfnod yn y rôl, byddaf yn ymdrechu i fod yn llais blaenllaw i bobl ag anableddau yng Nghymdeithas Seneddol y Gymanwlad (CPA) ac mewn Seneddau ledled y byd. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn rhithwir ar 26 Tachwedd

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau eleni, bydd y Senedd yn cynnal trafodaeth banel rithwir y byddaf fi’n ei chadeirio ar 3 Rhagfyr. Dewch i gymryd rhan. Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiad yma.

Diolch am ddarllen y blog, a Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau (IDPD) hapus i bawb!