Mae’r Senedd bresennol yn dod i ben yn swyddogol ar 8 Ebrill 2026 - yr enw am hyn yw diddymiad y Senedd.
Beth yw’r 'Diddymiad' a beth yw’r goblygiadau sy’n deillio ohono?
Y diddymiad yw’r cyfnod rhwng diwedd ffurfiol tymor seneddol a dechrau tymor seneddol newydd yn dilyn etholiad.
Ar ôl y dyddiad hwn, bydd holl fusnes y Senedd yn dod i ben, gan gynnwys y cyfarfodydd, gwaith y pwyllgorau, ac unrhyw gyfreithiau drafft sydd ar y gweill.
Pan gaiff y Senedd ei diddymu, bydd pob sedd yn y Senedd yn dod yn wag.
Pryd mae’r diddymiad yn dechrau?
Diwrnod cyntaf y diddymiad yw 8 Ebrill 2026.
Noder y bydd toriad Pasg y Senedd eleni rhwng dydd Llun 30 Mawrth 2026 a dydd Mawrth 7 Ebrill 2026.
Beth oedd yn digwydd ar ddiwrnod y Cyfarfod Llawn olaf?
Diwrnod y Cyfarfod Llawn olaf (pan oedd yr holl Aelodau'n cyfarfod) oedd dydd Mercher 25 Mawrth.
Roedd sesiwn olaf y Cyfarfod Llawn yn cynnwys cyfraniadau ffarwél gan rai Aelodau nad ydynt yn sefyll i gael eu hail-ethol. Gallwch ddarllen cyfraniadau’r Aelodau yng Nghofnod y Trafodion neu drwy wylio sesiwn y Cyfarfod Llawn ar Senedd.tv
A fydd yr Aelodau yn parhau yn Aelodau yn ystod y diddymiad?
Na fyddant. Bydd pob sedd bellach yn wag a bydd yr Aelodau yn rhoi’r gorau i gynrychioli eu hetholaethau neu’u rhanbarthau. Ni allant ddefnyddio'r teitl AS.
Ni fydd mynediad i ystad y Senedd i gyn-Aelodau a'u staff (ac eithrio Deiliaid Swyddi Parhaus).
Ar ddiwrnod cyntaf y diddymiad, caiff enwau a bywgraffiadau Aelodau, ac unrhyw fanylion cyswllt a gyhoeddwyd ar wefan y Senedd, eu symud i adran newydd ar y we o’r enw: Aelod Etholedig - Y Chweched Senedd (2021-2026).
Beth yw rôl Deiliaid Swyddi Parhaus?
Mae rhai rolau'n parhau yn ystod cyfnod y diddymu i sicrhau bod y wlad yn parhau i redeg yn esmwyth, ac i ymateb i unrhyw faterion brys o bwys cenedlaethol.
Ar gyfer y Senedd: Y Llywydd a Chomisiynwyr y Senedd.
O ran Llywodraeth Cymru: y Prif Weinidog; Ysgrifenyddion y Cabinet; Gweinidogion Cymru; a’r Cwnsler Cyffredinol.
A fydd Llywodraeth Cymru yn parhau yn ei lle?
Bydd. Mae Gweinidogion yn aros yn eu rolau mewn swyddogaeth gyfyngedig 'gofalwr' nes bod Prif Weinidog newydd yn cael ei ddewis a Gweinidogion newydd yn cael eu penodi.
Yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i Weinidogion Llywodraeth Cymru ddilyn y rheolau ar weithgarwch gwleidyddol a nodir yn y canllawiau cyn yr etholiad.
A yw'r Senedd yn wag yn ystod y diddymiad?
Nac ydy. Er bod busnes swyddogol y Senedd yn dod i ben yn ystod y cyfnod hwn, mae staff y Senedd yn brysur yn gweithio y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer yr Aelodau newydd o’r Senedd ym mis Mai. Cewch ragor o wybodaeth yn ein Blog staff - Tu ôl i'r Llenni.
Ewch i'n tudalen etholiad i gael gwybod pam mae'r etholiad yn bwysig a sut y gall eich pleidlais lywio dyfodol Cymru.