Mae'r Senedd yn adeilad eiconig ym Mae Caerdydd, ac yn gartref i Senedd Cymru.
Wedi'i ddylunio gan yr Arglwydd Richard Rogers ac Ivan Harbour, agorodd ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2006, gyda chynaliadwyedd wrth ei wraidd.
Dyma bum ffaith am y Senedd a allai eich synnu.
1. Dyluniad unigryw
Y twndis yw un o nodweddion mwyaf trawiadol y Senedd. Nid yn unig y mae ganddo ddyluniad hardd, mae ganddo rôl ymarferol hefyd. Mae’n dod â golau dydd ac awyr iach i’r Siambr, sef Siambr drafod y Senedd.
Mae'r cwfl ar ben yr adeilad, sydd wedi’i ysbrydoli gan dechnoleg hynafol Bersiaidd, yn newid cyfeiriad gyda'r gwynt, gan dynnu awyr iach i mewn.
Mae rhan allanol y twndis dan orchudd o bren y cedrwydd cochion, ac mae ganddo olew hunan-gadw naturiol. Felly ni fydd angen ei drin am o leiaf 100 mlynedd!
2. Gwresogi’r Senedd
Mae'r adeilad yn defnyddio pwmp gwres o'r ddaear, sy’n defnyddio tymheredd y ddaear i gynhesu ac oeri'r adeilad.
Mae boeler biomas yn rhoi gwres ychwanegol yn y gaeaf. Mae’n defnyddio sglodion coed sydd bron yn ddi-garbon o goed cynaliadwy fel tanwydd, gan gadw allyriadau carbon deuocsid yr adeilad mor isel â phosibl.
3. Casglu dŵr glaw
Mae to'r Senedd wedi'i gynllunio'n arbennig i gasglu dŵr glaw, sy'n cael ei storio mewn dau danc enfawr o dan yr adeilad. Mae hyn, ynghyd â a dulliau eraill o arbed dŵr yn golygu bod ein defnydd misol o ddŵr prif gyflenwad tua'r un faint â thŷ mawr!
4. Gwenyn y Pierhead
Mae adeilad y Pierhead yn gartref i tua 20,000 o wenyn, sy’n byw mewn dau gwch gwenyn ar y to. Bydd y nifer hwn yn cynyddu i tua 50,000 yn ystod tymor yr haf. Gall y gwenyn deithio dwy neu dair milltir o amgylch y Bae yn chwilota. Byddant hyd yn oed yn ymweld â pharciau a gerddi yr holl ffordd i Benarth os ydynt yn meddwl bod bwyd yno!
Mae tîm bach o wirfoddolwyr staff y Senedd yn gofalu am y gwenyn. Gallwch brynu jar o fêl blasus gwenyn y Pierhead yn siop anrhegion y Senedd!
5. Ein hymrwymiad i fioamrywiaeth
Mae'r Senedd yn gartref i lawer o westai trychfilod, sy’n darparu cynefinoedd ar gyfer gwenyn unig a phryfed eraill. Mae llain gardd mawr yn ein maes parcio, gyda dau bwll bach, planhigion sy’n gyfeillgar i bryfed peillio a choed sy’n blodeuo.
Mae dau fath o degeirianau yn tyfu yn y tir ochr yn ochr â’r Senedd, o ganlyniad i dorri’r gwair yn llai aml. Mae'r stribed blodau gwyllt hwn hefyd yn denu amrywiaeth o bryfed, gan gynnwys pryfed mursen a gloÿnnod byw.
Dewch i ymweld â’r Senedd
Mae'r Senedd ar agor i'r cyhoedd a gallwch ymweld yn rhad ac am ddim.
Mae llawer i'w wneud, o deithiau tywys ac arddangosfeydd i weithgareddau i blant a danteithion blasus yn ein caffi gyda golygfeydd ar draws Bae Caerdydd.