Pwy sy'n gyfrifol am dderbyn cwestiynau llafar ac ysgrifenedig y Cynulliad?

Cyhoeddwyd 02/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Y Swyddfa Gyflwyno sy'n gyfrifol am dderbyn busnes y Cynulliad (sy'n cynnwys cwestiynau llafar ac ysgrifenedig) ar ran y Llywydd, sef yr unigolyn sydd â'r gair olaf ar dderbynioldeb busnes. Cwestiynau Llafar y Cynulliad Mae cwestiynau llafar yn galluogi Aelodau'r Cynulliad i graffu ar bolisïau a gwaith Llywodraeth Cymru a phwyso ar Weinidogion i gymryd camau yn ystod y Cyfarfod Llawn. Gall yr Aelodau hefyd gyflwyno cwestiynau llafar i'r Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad. Mae'r gwaith o brosesu cwestiynau llafar yn dechrau ar ddydd Llun, pan fydd y Swyddfa Gyflwyno yn cynnal balot ar gyfer pob cyfnod i ofyn cwestiynau i'r Gweinidogion yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol (gofynnir i'r Aelodau nodi pa balot yr hoffent gael eu cynnwys ynddynt ar ddechrau pob Cynulliad - gyda rhestr ar wahân ar gyfer pob Gweinidog). Yna defnyddir pob balot i ddewis enwau'r Aelodau hynny sy'n cael gwybod yn fuan wedyn gan y Swyddfa Gyflwyno eu bod wedi bod yn llwyddiannus. Yna mae gan yr Aelodau a ddewiswyd ar gyfer pob balot y cyfle i gyflwyno cwestiwn (erbyn y dyddiad cau y cytunwyd arno, a nodir yn y Rheolau Sefydlog - tri diwrnod gwaith cyn y bydd y Prif Weinidog yn ateb y cwestiynau a phum diwrnod gwaith ar gyfer pob cwestiwn arall). Yna caiff y cwestiynau sydd wedi'u cyflwyno eu cymysgu ar hap gan y Swyddfa Gyflwyno (gyda hyn yn cael ei wneud ar wahân ar gyfer pob Gweinidog) i benderfynu ar y drefn y gofynnir y cwestiynau. Caiff y 15 cyntaf eu hateb yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, ac ni chyflwynir y gweddill. Bydd y Swyddfa Gyflwyno yn cyhoeddi'r cwestiynau cyn gynted â phosibl ar y diwrnod wedi iddynt gael eu cyflwyno ar wefan y Cynulliad, unwaith y byddant wedi'u cyfieithu dros nos. Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad Yn ogystal â'r cwestiynau llafar, gall Aelodau'r Cynulliad hefyd gyflwyno cwestiynau i'r Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru, y Cwnsler Cyffredinol a Chomisiwn y Cynulliad eu hateb yn ysgrifenedig. Cyhoeddir pob cwestiwn ysgrifenedig a gyflwynir gan yr Aelodau ar wefan y Cynulliad y bore canlynol. Yn ystod wythnosau eistedd, gall yr Aelodau gyflwyno cwestiynau ar unrhyw ddiwrnod ac nid oes cyfyngiad ar nifer y cwestiynau ysgrifenedig y gallant eu cyflwyno. Mae’r Rheolau Sefydlog yn nodi na all Aelod ddisgwyl ateb i gwestiwn ysgrifenedig o fewn llai na phum diwrnod gwaith. Fel arfer, mae Gweinidogion yn ceisio ymateb o fewn saith neu wyth diwrnod, ond gallant gymryd yn hirach os oes angen. Caiff yr holl atebion eu cyhoeddi’n llawn ar wefan y Cynulliad a’u hanfon yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru at yr Aelod a ofynnodd y cwestiwn.