Cyhoeddwyd 12/11/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Yn 2012 ffurfiodd tîm Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru bartneriaeth â
Sgowtiaid Cymru er mwyn darparu adnoddau iddynt ar gyfer y
Bathodyn Her Democratiaeth. Bwriad y Her Democratiaeth yw annog pobl ifanc i archwilio prosesau democrataidd y Deyrnas Unedig, Cymru a Llywodraethau Lleol fel eu bod mewn sefyllfa well i wneud eu penderfyniadau eu hunain yn y dyfodol a’u bod yn cymryd rhan briodol mewn democratiaeth yn y gymdeithas.
Mae adnoddau wedi’u creu gan y tîm Allgymorth fel bod gan arweinwyr ganllawiau a gweithgareddau ar waith i fodloni
gofynion y bathodyn. Unwaith y cânt eu bodloni, bydd y Sgowtiaid yn cael y bathodyn isod:

Dros y misoedd diwethaf mae’r tîm Allgymorth wedi bod yn brysur yn hyrwyddo’r adnoddau hyn gydag arweinwyr Sgowtiaid ledled Cymru ac wedi mynd i sawl digwyddiad er mwyn gallu gwneud hyn.
Ym mis Mehefin roedd bws Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngwersyll Sgowtiaid Cymru yn Llanfair-ym-Muallt a bu ir tîm Allgymorth cynnal sgwrs â dros 1,000 o Sgowtiaid am waith y Cynulliad. Cafodd y Sgowtiaid hefyd y cyfle i fynegi eu barn ar eu gwasanaethau ailgylchu drwy lenwi holiadur.

Yn dilyn hyn aeth y tîm Allgymorth i ymweld â nifer o grwpiau Sgowtiaid ledled Cymru i’w cyflwyno i’r Bathodyn Her Democratiaeth ac i’w rhoi ar y trywydd iawn i fodloni’r gofynion. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys Afancod y Sgowtiaid a Chybiau’r Sgowtiaid yn Wrecsam. Cafodd y grŵp weithdy rhagarweiniol a roddodd y cyfle iddynt bleidleisio mewn etholiad bach. Yn dilyn y gweithdy, aeth y grŵp i ymweld â’r Senedd yng Nghaerdydd.

Dywedodd Susan Mort, Arweinydd Cybiau’r Sgowtiaid:
“Ymwelodd Cybiau ardal Wrecsam y Senedd yng Nghaerdydd i ddarganfod mwy am sut mae eu Senedd yn gweithio yn yr adeilad hyfryd hwn ac i ddysgu am strwythur a’r ffabrigau a ddefnyddir wrth ei adeiladu sy'n rhan o dreftadaeth Cymru.
Cawsom ymweliad llwyddiannus gan Caryl sy'n gweithio i'r tîm allgymorth sy'n ymweld â sefydliadau ac yn rhoi cyflwyniadau ar y Cynulliad. Bu i'r Afancod a Chybiau darganfod gwybodaeth am y Senedd ac yna cymryd pleidlais ar hyn y credent oedd bwysicaf iddynt ac roedd hyn yn cynnwys chwaraeon ac addysg.
Mor ifanc ag y maent, cymerodd pob un rhan ac roedd y canlyniadau yn dangos pa mor ymwybodol ydynt o bwysigrwydd materion fel addysg."
Ddydd Sadwrn 18 Medi 2014, roedd y tîm Allgymorth yn bresennol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol a chynhadledd Sgowtiaid Cymru a gynhaliwyd yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt. Gosodwyd stondin yn y neuadd gyda chopïau caled o’r adnoddau a taflenni gwybodaeth i arweinwyr eu cymryd.

Roedd cyfle wedyn i’r tîm Allgymorth rhoi cyflwyniad yn egluro’r bartneriaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Sgowtiaid Cymru o ran y Bathodyn Her Democratiaeth, sut y gall arweinwyr gael gafael ar adnoddau ac annog cymaint o arweinwyr â phosibl i roi cynnig ar y her gyda’u grwpiau.

Yn dilyn y cyfarfod cyffredinol blynyddol a’r gynhadledd, cawsom sgwrs â Debbie Tanner, sef Uwch-swyddog Datblygu Sgowtiaid Cymru. Isod, mae Debbie yn mynegi ei barn ar yr adnoddau a grëwyd ar gyfer y Bathodyn Her Democratiaeth.
https://www.youtube.com/watch?v=a2ULRflBM-k&feature=youtu.be
Os hoffech ragor o wybodaeth am yr adnoddau, neu os hoffech i aelod o’r tîm Allgymorth ddod i siarad â’ch grŵp, mae croeso ichi gysylltu â ni ar 01492 523219 neu timallgymorth@cymru.gov.uk
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dilynwch ein tudalen ar Twitter, sef @CynulliadCymru.