adwitiya pal

adwitiya pal

Stori Gymreig - Stori Adwitiya

Awdur Adwitiya Pal   |   Cyhoeddwyd 01/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Fel newyddiadurwr, rwy'n angerddol dros adrodd straeon a dysgu mwy am yr heriau y mae pobl yn eu hwynebu. Rwy’n credu ym mhŵer geiriau, delweddau a fideos, a’r ffordd y gallant lywio barn a syniadau, ac effeithio ar safbwyntiau a sgyrsiau. Rwy'n eiriolwr brwd dros hawliau dynol, cydraddoldeb a newid hinsawdd, ac yn credu mewn rhyddhau pobl o'r system gyfalafol ormesol. Deallaf fod y cyfryngau heddiw yn gwneud cam â’r cyhoedd drwy gynnal y sefyllfa fel y mae a thrwy droi clust fyddar i’r hyn y mae’r bobl wir yn galw amdano. Rwy'n gobeithio y gallaf, trwy fy ngwaith, wneud gwahaniaeth bach ond arwyddocaol.

 


Mae Cymru yn wlad sydd wedi ei llunio gan waed, chwys a dagrau cannoedd o genedlaethau a ddaeth o’n blaenau ni. Gyda hanes cyfoethog ac enfawr sy'n esblygu'n gyson hyd yn oed heddiw, mae bellach yn bwysicach nag erioed ein bod yn edrych y tu hwnt i'n gwahaniaethau ac yn symud ymlaen ar daith y wlad hon gyda phawb — waeth beth yw eu hil, ethnigrwydd, crefydd neu rywioldeb, gan sicrhau bob amser hefyd nad yw’r diwylliant a’r dreftadaeth Gymreig yn cael eu hanghofio. Heddiw, mae Cymru ar flaen y gad wrth groesawu ffoaduriaid i'r Deyrnas Unedig, ond rwy'n teimlo bod lle bob amser i gael mwy o gynwysoldeb a diogelu eu bywydau rhag hiliaeth, tlodi a dieithrio. Gobeithio y gallwn ni lwyddo i wneud y pethau bychain mewn bywyd, fel y gofynnodd Dewi Sant ei hun i ni ei wneud, a sefyll yn gryf yn erbyn casineb a rhaniadau.