Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

Sut i Bleidleisio: Beth Sy'n Digwydd yn yr Orsaf Bleidleisio?

Cyhoeddwyd 05/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munud

Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn Etholiad y Senedd ar 6 Mai, mae’n bosibl eich bod wedi bod yn meddwl am beth fydd yn digwydd nesaf. Yn sgil y ffaith bod gan bobl 16 a 17 oed yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru, bydd llawer o bobl sy’n pleidleisio am y tro cyntaf yn mynd i'r orsaf bleidleisio, a bydd angen sesiwn loywi ar nifer o bobl eraill ynghylch yr holl broses.

 

Dylech sicrhau eich bod yn barod i ddefnyddio eich llais ar 6 Mai 2021 drwy ddarllen ein canllaw byr ar sut i bleidleisio'n bersonol.

 

Pleidleisio'n bersonol yn Etholiad y Senedd

Pleidleisio’n bersonol yw un o'r ffyrdd symlaf o fwrw’ch pleidlais. Os ydych chi ar y gofrestr etholiadol, byddwch yn cael cerdyn pleidleisio yn y post. Bydd hwn yn rhoi manylion ichi ynglŷn â ble mae eich gorsaf bleidleisio leol.

 

Gallwch fynd i orsaf bleidleisio ar ddiwrnod etholiad y Senedd i fwrw'ch pleidlais. Mae gorsafoedd pleidleisio yn cael eu sefydlu am y diwrnod mewn adeiladau lleol fel neuaddau ysgol neu neuaddau cymunedol ledled Cymru.

 

Ar ddiwrnod yr etholiad, mae’r gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 07.00 a 22.00 er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu defnyddio’u pleidlais.

 

Canllawiau COVID-19

 

Yn sgil y pandemig COVID-19, mae rhai pethau y dylech eu hystyried wrth bleidleisio’n bersonol.

 

  • Mae gorsafoedd pleidleisio yn fannau diogel i bleidleisio, ac mae mesurau ar waith i'ch helpu i gadw'n ddiogel.
  • Mae’n bosibl y bydd gofyn i chi giwio cyn mynd i mewn i'r orsaf bleidleisio os oes nifer fawr o bleidleiswyr eraill yno ar yr un pryd.
  • Bydd hylif diheintio dwylo ar gael, a dylid ei ddefnyddio wrth fynd i mewn i’r orsaf bleidleisio ac wrth ymadael.
  • Yn ogystal, dylech sicrhau eich bod yn gwisgo gorchudd wyneb bob amser (oni bai eich bod wedi eich eithrio, wrth gwrs).
  • Bydd marciau ar y llawr a fydd yn dangos i chi ble i fynd, ac i’ch helpu i gadw pellter cymdeithasol.
  • Argymhellir eich bod yn mynd â'ch ysgrifbin a’ch pensil eich hun i'r orsaf bleidleisio, er y bydd pensiliau glân ar gael yno hefyd.
  • Bydd yr orsaf bleidleisio yn cael ei glanhau'n rheolaidd er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel i bleidleiswyr.

 

Bydd staff yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio i'ch cynorthwyo os bydd angen.

 

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi creu’r fideo a ganlyn, sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn y dylech ei ddisgwyl yn eich gorsaf bleidleisio leol ar 6 Mai.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y drefn bleidleisio, gan gynnwys ffyrdd eraill o bleidleisio, ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd a pham mae eich llais yn bwysig, ewch i senedd.cymru/etholiad/.