Sut mae cadeiryddion pwyllgorau’r Senedd yn cael eu henwebu?

Cyhoeddwyd 29/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae gan y Chweched Senedd 12 o bwyllgorau sy’n edrych ar waith Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus eraill o ran pynciau penodol - fel iechyd, yr economi ac addysg.

Maent yn cynnal ymchwiliadau ac yn llunio adroddiadau, gan archwilio cyfreithiau arfaethedig a dwyn Gweinidogion Llywodraeth Cymru i gyfrif.

Aelodau etholedig y Senedd sydd ar y pwyllgorau, ac mae Cadeirydd yn cael ei enwebu i arwain y Pwyllgor a’i waith.

Ond sut mae cadeiryddion y pwyllgorau hyn yn cael eu henwebu?

Gadewch i ni weld sut mae'r broses yn gweithio.

Sut y mae enwebiadau ar gyfer cadeirydd Pwyllgor y Senedd yn gweithio?

Gofynnir i Aelodau o’r Senedd enwebu pwy maen nhw eisiau ei weld yn gadeirydd ar bob un o bwyllgorau’r Senedd.

Ar gyfer rôl y Cadeirydd, dim ond o'r grŵp gwleidyddol y dyrannwyd y pwyllgor hwnnw iddo y gall enwebeion ddod.

Dyma sut mae cadeiryddion yn cael eu henwebu:

Beth mae'r bleidlais gudd yn ei gynnwys?

Mae proses y bleidlais gudd yn cael ei chynnal y tu allan i’r Cyfarfod Llawn.

Yn ystod y bleidlais, bydd pob Aelod yn bwrw pleidlais dros bwy maen nhw eisiau ei weld yn gadeirydd. Yna mae’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif ac mae'r canlyniad yn dibynnu ar nifer o senarios.

Senarios pleidleisio:

  1. Un enwebiad, y gwrthwynebwyd iddo: Gofynnir i’r Aelodau bleidleisio o blaid yr ymgeisydd hwnnw neu yn ei erbyn. Er mwyn cael ei ethol, mae’n rhaid i'r Aelod gael mwy na hanner y pleidleisiau sy’n cael eu bwrw.
  2. Dau enwebiad: Gofynnir i’r Aelodau ddewis yr ymgeisydd a ffafrir ganddynt. Yr Aelod sy'n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill. Os yw'r bleidlais yn gyfartal, bydd yr Aelodau'n pleidleisio eto.
  3. Mwy na dau enwebiad: Bydd yr Aelodau’n pleidleisio drwy restru cynifer o'r ymgeiswyr ag y dymunant yn nhrefn eu dewis. Os na chaiff yr un Aelod fwy o bleidleisiau na’r rhai sy’n cael eu bwrw dros yr holl ymgeiswyr eraill, mae’n rhaid hepgor yr ymgeisydd sydd â'r nifer leiaf o bleidleisiau dewis cyntaf ac ailddosbarthu ei bleidleisiau rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill yn nhrefn y dewisiadau nesaf. Ailadroddir y broses hon nes i un ymgeisydd gael mwy o bleidleisiau na’r rhai sy’n cael eu bwrw dros yr holl ymgeiswyr eraill. Os bydd yn gyfartal rhwng y ddau ymgeisydd olaf – pleidleisiwch eto.

Pryd mae’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi?

Bydd y Llywydd yn cyhoeddi pwy sydd wedi’i ethol yn gadeirydd pob Pwyllgor yn y Cyfarfod Llawn ar ôl y cyfnod pleidleisio. Gallwch wylio’r enwebiadau a’r canlyniad yn fyw ar Senedd TV.

Rhagor o wybodaeth am bwyllgorau’r Senedd

Dysgwch fwy am waith a rôl pwyllgorau’r Senedd.

Rhagor o wybodaeth