Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddodd Vaughan Gething ei fod yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog.
Ond gan na fydd etholiad nesaf y Senedd yn digwydd tan 2026, sut y bydd Cymru'n dewis Prif Weinidog newydd?
Beth am edrych yn fanylach ar y broses.
Yn gyntaf, mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ymddiswyddo
Bydd y Prif Weinidog yn anfon ei ymddiswyddiad at y Brenin.
Ar ôl i’r Brenin ei dderbyn, mae'r Llywydd (Llefarydd y Senedd) yn hysbysu'r Senedd. Dyma pryd mae’r Prif Weinidog yn ymddiswyddo’n swyddogol.
Yna, mae'n amser enwebu
Mae Aelodau o'r Senedd yn ymgynnull yn y Siambr. Mae'r Llywydd yn gofyn i Aelodau o’r Senedd am enwebiadau i swydd y Prif Weinidog. Gall unrhyw Aelod o'r Senedd enwebu un arall i fod yn Brif Weinidog. Maen nhw fel arfer yn enwebu arweinydd un o’r pleidiau
Os caiff un Aelod ei enwebu?
Y person hwnnw yw'r "enwebai".
Os caiff mwy nag un o Aelodau eu henwebu?
Mae’r holl Aelodau o'r Senedd yn pleidleisio, ac eithrio'r Llywydd a’r Dirprwy Lywydd (Dirprwy Lefarydd).
Ar ôl i'r Senedd ddewis Prif Weinidog newydd, mae'r Llywydd yn ysgrifennu at y Brenin yn argymell bod yr "enwebai" yn dod yn Brif Weinidog.
Y cam olaf: mae’r Brenin yn penodi’r Prif Weinidog newydd
Pan fydd y Brenin wedi penodi'r Prif Weinidog newydd, bydd y Prif Weinidog yn dewis Aelodau o'r Senedd i fod yn weinidogion yn y Cabinet.
Ac felly mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ei ffurfio.