Drwy gydol pandemig y Coronafeirws, mae'r Senedd wedi arwain y ffordd o ran arloesi er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn parhau i gael eu cynrychioli gan eu Haelodau etholedig, a bod y Llywodraeth yn parhau i fod yn destun gwaith craffu cadarn.
Mae Senedd Cymru wedi datblygu datrysiadau newydd i'r heriau digynsail y mae wedi’u hwynebu, gan gynnwys datblygu ap pleidleisio ei hun ar gyfer Aelodau, a chadarnhau ei statws fel y ddeddfwrfa gyntaf yn y DU i gynnal Cyfarfodydd Llawn rhithwir.
Pan roddwyd y cyfyngiadau symud ar waith, llwyddodd y Senedd i addasu yn gyflym. Senedd Cymru oedd Senedd gyntaf y DU i gynnal Cyfarfod Llawn rhithwir, ar 1 Ebrill. Cynhaliwyd ei sesiwn gyntaf i gael ei ffrydio’n fyw wythnos yn ddiweddarach.
Yr her gyntaf oedd ceisio cysylltu Aelodau o bob cwr o'r wlad. Roedd angen meddwl yn ofalus am sut y byddai modd cynnal trafodion di-dor, a hynny gan roi cyfle i bob Aelod siarad yn eu dewis iaith.
Cynhaliwyd profion trylwyr ar lwyfannau a chymwysiadau amrywiol er mwyn datblygu system i gefnogi ffrwd sain ddwyieithog, yn Saesneg ac yn Gymraeg, a hynny er mwyn caniatáu i Aelodau gyfrannu yn eu dewis iaith, ac i wylwyr wylio yn yr un modd, ac er mwyn caniatáu i gyfranwyr symud yn hwylus o un iaith i'r llall heb darfu ar lif y trafodion.
Yn sgil hynny, ysgogwyd nifer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i ofyn i Gomisiwn y Senedd am gyngor a chanllawiau ynghylch sut i gynnal eu cyfarfodydd dwyieithog eu hunain.
Defnyddiwyd yr un dechnoleg ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau’r Senedd, ac ar gyfer y cyfarfod a gynhaliwyd rhwng Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru â Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, a Gweinidogion Llywodraeth Cymru.
Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, cyflwynwyd model hybrid ar gyfer y Cyfarfod Llawn. O dan y drefn honno, caniatawyd i 20 o Aelodau gwrdd yn ddiogel yn Siambr y Senedd, ac roedd cyfle i’r 40 Aelod a oedd yn weddill ymuno â’r cyfarfod ar-lein. Yn gychwynnol, defnyddiwyd pleidlais floc ar gyfer yr Aelodau. Fodd bynnag, cyflwynwyd technoleg newydd er mwyn caniatáu i bob Aelod bleidleisio'n unigol ar ddeddfwriaeth a rheoliadau pwysig.
Datblygwyd ap pleidleisio unigryw gan staff TG arbenigol y Senedd, gan ddefnyddio meddalwedd a gafodd ei dylunio gan y tîm datblygu apiau mewnol. Ar ôl cyfnod helaeth o brofi, gan gynnwys cynnal miloedd o bleidleisiau ffug, defnyddiwyd yr ap am y tro cyntaf yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 8 Gorffennaf.
Ers mabwysiadu'r datblygiadau newydd hyn, mae'r Senedd wedi bod yn rhannu ei phrofiadau a'i gwybodaeth â deddfwrfeydd eraill, gan gynnwys Senedd y DU a Senedd yr Alban, a deddfwrfeydd mewn lleoedd mor bell i ffwrdd ag Awstralia, Seland Newydd a Chanada.
Dywedodd Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:
Mae'r Senedd bob amser wedi datblygu a mabwysiadu technoleg newydd sy’n cyd-fynd â disgwyliadau cymdeithas fodern, a hynny er mwyn sicrhau bod pobl yn deall y gwaith sy'n cael ei wneud ar eu rhan ac yn gallu ei lywio.
Rwy’n falch o’r hyn y mae ein tîm TGCh mewnol a’n partneriaid wedi’i gyflawni o dan amgylchiadau anodd iawn, gan alluogi’r Senedd i barhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar y penderfyniadau y mae Gweinidogion wedi’u cymryd yn ystod y pandemig hwn.
Yn wyneb yr her newydd o gyfuno elfennau rhithwir a phresenoldeb corfforol Aelodau o dan reolau pellhau cymdeithasol llym yn ystod y Cyfarfod Llawn hybrid, roedd gofyn datblygu dulliau newydd a oedd yn integreiddio dwy system dechnolegol ar wahân er mwyn cynnal trefn y trafodion.
Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd:
Ar bob cam, rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau uniondeb trafodion y Senedd, fel y gall yr Aelodau a phobl Cymru fod yn siŵr bod pob cam sy’n cael ei gymryd yn cydymffurfio â’n safonau uchel, ynghyd â’r gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n llywio’r sefydliad hwn.
Roedd angen system arnom y gallai Aelodau gael mynediad ati’n hwylus, a system a oedd yn ddibynadwy ac yn ddiogel ac a oedd yn caniatáu i drafodion gael eu cynnal mewn modd mor ddidrafferth â phosibl.
Mae'r adborth a gawsom gan yr Aelodau a'r cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol dros ben, ac mae llawer y gallwn ei ddysgu o'r profiadau hyn a all ein helpu i lunio sut y gall y Senedd hon, a Seneddau eraill, weithredu yn y dyfodol.
Roedd y cam o ddatblygu ap pleidleisio arbennig yn gam pwysig, gan ei fod yn caniatáu i Aelodau daro pleidlais unigol electronig o unrhyw fan ar faterion pwysig, gan gynnwys deddfwriaeth, newidiadau i reoliadau a dadleuon.
Dywedodd Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Darlledu:
Fel nifer o sefydliadau ledled y byd, rydym wedi wynebu nifer o heriau i’w goresgyn yn sgil cyfyngiadau symud y Coronafeirws. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa hon hefyd wedi cyflymu’r broses o brofi ac arbrofi mewn perthynas â systemau ac offer a allai fod wedi cymryd blynyddoedd i ddwyn ffrwyth o dan amgylchiadau arferol.
Mae wedi bod yn her inni geisio datblygu gwasanaethau addas i alluogi’r Senedd i gynnal cyfarfodydd rhithwir yn y man cyntaf, ac yna i gynnal cyfarfodydd hybrid, ac i sicrhau bod y cyfarfodydd hyn yn bodloni ein safonau uchel o ran dibynadwyedd a diogelwch.
Dibynadwyedd a diogelwch oedd yr ystyriaethau pwysicaf wrth ddatblygu’r ap pleidleisio, a dyna pam y buom yn gweithio gyda Chanolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU yn gynnar yn y broses er mwyn lliniaru’r posibilrwydd o ymyrraeth allanol â thrafodion y Senedd.
Bydd y Senedd yn parhau i gynnal cyfarfodydd hybrid, gan asesu'n barhaus y posibilrwydd o lacio’r cyfyngiadau symud, yn unol â’r cyngor a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a sefydliadau partner eraill.