Ar 8 Ebrill, bydd tymor presennol y Senedd yn dod i ben. Bydd busnes yn dod i ben. Bydd yr ystafelloedd pwyllgora yn tawelu. Bydd y Siambr yn wag. Er bod busnes swyddogol y Senedd yn oedi yn ystod y cyfnod hwn, mae staff y Senedd yn brysur yn gweithio y tu ôl i’r llenni i sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer yr Aelodau newydd o’r Senedd ym mis Mai.
Yn y blog hwn, mae cydweithwyr yn rhannu'r hyn maen nhw'n ei wneud a sut maen nhw'n paratoi i gefnogi Senedd newydd sbon.
Dechreuais i weithio i'r Senedd (y Cynulliad Cenedlaethol bryd hynny) yn 2006, ac mae cymaint wedi newid ers hynny. Rydyn ni wedi gweld sawl Prif Weinidog, gan gynnwys ein harweinydd Du cyntaf a’n harweinydd benywaidd cyntaf, a ni oedd y senedd gyntaf i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal rhwng y rhywiau yn ôl yn 2023. Nawr, rydym yn paratoi i groesawu 96 o Aelodau ym mis Mai.
Fel Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc, y newid mwyaf rydw i wedi'i weld yw’r ffaith nad yw'r bobl ifanc rydw i'n eu haddysgu heddiw erioed wedi byw mewn Cymru heb Senedd.
Bob wythnos, rydyn ni'n cwrdd â phobl ifanc yma yn y Senedd, neu rydw i'n ymweld â nhw, i esbonio sut mae democratiaeth yn gweithio a sut mae’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn y Senedd yn effeithio arnyn nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau.
Eleni, mae llawer o'n gwaith wedi canolbwyntio ar bobl ifanc sy’n pleidleisio am y tro cyntaf. Mae fy nghydweithwyr a minnau wedi teithio ledled y wlad yn ymweld â channoedd o ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid i helpu pobl ifanc i ddeall y broses bleidleisio - sut i gofrestru, beth yw maniffestos, gwahanol ffyrdd o bleidleisio a pham mae eu pleidlais yn bwysig.
Dwi wrth fy modd! Mae gweithio gyda phobl ifanc mor frwdfrydig yn ysbrydoledig iawn. Ar un ymweliad ag ysgol yn ddiweddar, gofynnodd disgybl pam rydyn ni'n defnyddio croes wrth fwrw pleidlais: “Mae croes yn golygu bod rhywbeth yn anghywir! Beth am roi cusan wrth ymyl y blaid rydych chi'n ei hoffi?"
Atebais nad oedd ots gen i os oedd hi'n ei alw'n groes neu'n gusan, cyn belled â'i bod hi'n defnyddio ei phleidlais. Dywedais wrthi hefyd fod fy mam-gu yn cofio amser pan nad oedd ganddi hi, fel menyw, yr hawl i bleidleisio oherwydd ei rhyw. Mae llawer wedi newid, ond beth bynnag sy'n digwydd ar 7 Mai, rwy’n meddwl mai dyma fydd un o'r etholiadau mwyaf cyffrous y byddai’n ei weld erioed.
Gwrandewch ar Richard yn siarad am ei rôl ar BBC Radio Cymru.
Rwy'n Glerc yn y Cyfarfod Llawn sy'n gweithio yn Ysgrifenyddiaeth y Siambr. Fel tîm, rydyn ni’n paratoi ar gyfer y Cyfarfod Llawn a chyfarfod y Pwyllgor Busnes bob wythnos fusnes, ac yn cefnogi’r cyfarfodydd hyn wrth iddynt fynd rhagddynt. O ran y Cyfarfod Llawn, ni sy’n gyfrifol am lunio'r holl ddogfennau allweddol er mwyn i’r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd allu cadeirio’r cyfarfod yn effeithiol. Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’r Cyfarfod Llawn er budd yr Aelodau, eu staff a'r cyhoedd.
Mae fy rôl i yn cynnwys cefnogi'r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd yn y Siambr ei hun, gan sicrhau bod y wybodaeth sydd ganddyn nhw wrth law yn gywir ac yn gyfredol. Rwy'n gweithio gyda Chlercod a thimau eraill i ymateb i unrhyw faterion technegol neu faterion gweithdrefnol wrth iddyn nhw godi.
Y tu allan i’r Cyfarfod Llawn, rwy'n rhan o’r gwaith o ddatblygu gweithdrefnau ac adnoddau gweithdrefnol, sy'n bwysig wrth nodi'r ffordd y cynhelir busnes seneddol.
Gweithdrefnau seneddol yw'r rheolau sy'n sicrhau tegwch ac sy’n nodi sut mae Aelodau o'r Senedd yn cynnal dadleuon, yn craffu ar Lywodraeth Cymru ac yn pasio deddfau. Mae'r gweithdrefnau hyn wedi'u nodi yn Rheolau Sefydlog y Senedd.
Cyn y Seithfed Senedd, aeth y broses o symud yn ôl i'r Siambr rhagddi yn llwyddiannus ym mis Chwefror, ac mae'r gwaith ar y feddalwedd newydd ar gyfer rheoli’r Cyfarfod Llawn yn parhau. Rydyn ni hefyd yn paratoi ar gyfer busnes cynnar yn syth ar ôl yr etholiad, fel bod y broses o benodi’r Llywydd a'r Dirprwy Lywydd, ac enwebu’r Prif Weinidog, yn mynd rhagddi'n esmwyth.
Gwrandewch ar Aled yn siarad am ei rôl ar BBC Radio Cymru.
Mae’r Tîm Digwyddiadau ac Ymgysylltu â Chymunedau yn chwarae rhan bwysig wrth roi gwybod i’r cyhoedd am waith a rôl y Senedd.
Rydyn ni’n gweithio i roi'r Senedd wrth wraidd bywyd cyhoeddus Cymru, fel adeilad ac fel sefydliad, drwy gynnal digwyddiadau yn y Senedd a chwrdd â chymunedau ledled Cymru.
Mae’r etholiad ym mis Mai wedi rhoi ffocws clir inni ar gyfer eleni – i gyfleu’r newidiadau sydd ar y gweill ac i ymgysylltu â chynulleidfaoedd a chymunedau amrywiol o bob cwr o Gymru.
Rydyn ni wedi cael blwyddyn hynod o brysur ac wedi llwyddo i ymweld â phob un o'r 16 o etholaethau newydd o leiaf unwaith. Mae'r ymweliadau hyn wedi cynnwys ystod o wyliau, lleoliadau a digwyddiadau, gan gynnwys: ffeiriau wythnos y glas, Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Frenhinol Cymru, canolfannau siopa, llyfrgelloedd, sioeau amaethyddol a gwyliau bwyd. Y nod yw cyrraedd pobl nad ydyn nhw fel arfer yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth.
Mae ymatebion y cyhoedd i'r newidiadau wedi bod yn gymysg... gyda rhai o blaid, ac eraill yn erbyn. Ein rôl ni yw codi ymwybyddiaeth o'r Senedd a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o’i gwaith. Felly, hyd yn oed os nad yw rhywun yn cytuno â'r newidiadau, bydd ganddyn nhw well ddealltwriaeth o’r rhesymau y tu ôl i’r newidiadau hynny a sut mae'r Senedd yn gweithio ar ôl cael sgwrs gydag aelod o'r tîm.
Wrth i ni baratoi ar gyfer y Seithfed Senedd, edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Llywydd newydd a pharhau i gyflwyno rhaglen sy'n ysbrydoli, yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu â chymunedau ledled Cymru. Rydyn ni’n parhau i greu cyfleoedd ac yn chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl Cymru.
Gwrandewch ar Angharad yn siarad am ei rôl ar BBC Radio Cymru.
Fel Pennaeth Cyswllt â’r Aelodau, rwy'n goruchwylio tîm sy'n gyfrifol am gefnogi Aelodau yn eu rolau. Mae hyn yn cynnwys dysgu a datblygu yn ogystal â gwasanaethau ymgysylltu i Aelodau a'u staff.
Rhan ganolog o fy rôl yw sicrhau bod Comisiwn y Senedd yn rhoi anghenion yr Aelodau wrth wraidd y penderfyniadau y mae’n eu gwneud, yn enwedig o ran sut mae gwasanaethau'n cael eu cynllunio, eu darparu a'u gwella. Drwy hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio ar yr Aelodau, rwy'n helpu i lunio cymorth sy'n ymatebol, yn hygyrch ac yn cyd-fynd â realiti gwaith yr Aelodau.
Ar gyfer y Senedd nesaf, byddaf yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gyflwyno rhaglen gynefino groesawgar a chydlynol i’r Aelodau newydd a'r Aelodau sy'n dychwelyd. Bydd hyn yn arbennig o bwysig gan fod cynyddu maint y Senedd a throsiant ymhlith y garfan bresennol o Aelodau yn golygu y bydd nifer fawr o Aelodau newydd ym mis Mai.
Byddaf yn goruchwylio ein cysylltiadau ag Aelodau yn syth ar ôl yr etholiad, gan sicrhau bod pob Aelod yn teimlo'n gartrefol ac yn cael y wybodaeth gywir o'r eiliad y byddant yn cyrraedd. Bydd fy nhîm yn cydgysylltu hyfforddiant i helpu Aelodau i ddeall eu cyfrifoldebau, y gwasanaethau sydd ar gael iddynt a'r prosesau gweithredol allweddol, tra hefyd yn cyfarwyddo’r rhaglen ddysgu a datblygu a gyflwynir gan ein gwahanol feysydd gwasanaeth a hyfforddwyr allanol fel rhan o’r broses gynefino.
Elfen bwysig o’r broses hon yw'r Hwb – sydd, am y tro cyntaf, yn cynnig gofod ffisegol ar y safle i rannu gwybodaeth, cyngor a chymorth wyneb yn wyneb. Dyma hefyd yr enw newydd ar gyfer mewnrwyd yr Aelodau. Mae'r Hwb yn dwyn ynghyd ystod o adnoddau mewn un porth modern sy’n galluogi Aelodau i gael mynediad at ganllawiau, adnoddau a gwasanaethau digidol ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Mae 'Hwb' hefyd yn chwarae ar y gair Saesneg 'hub' a'r gair Cymraeg 'hwb', sy'n golygu anogaeth. Ein bwriad yw y bydd yr Hwb ar y fewnrwyd ac ystafell yr Hwb yn cyd-fynd â’r ddau ystyr.
Drwy ddarparu'r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir, ein nod yw helpu Aelodau i gyflawni eu dyletswyddau yn hyderus ac yn hwylus.
Gwrandewch ar Joanna yn siarad am ei rôl ar BBC Radio Cymru.
Mae pedair elfen ar wahân i'r gwaith a wneir gan staff yn y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi (TRS), ac mae fy nghyfrifoldebau i'n ymwneud yn uniongyrchol â thair ohonynt. Fy mhrif ddyletswydd, sef y gwaith yr wyf yn ei wneud bob wythnos, yw darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgor.
Fy nyletswyddau eraill, sef y rhai rwyf yn eu amnewid bob pythefnos, yw cyfieithu'r gwahanol ddogfennau y mae'n rhaid eu cyhoeddi'n ddwyieithog o dan y Cynllun Ieithoedd Swyddogol; a thrawsgrifio Cyfarfodydd Llawn a chyfarfodydd pwyllgor ar gyfer Cofnod y Trafodion.
Yn y cyfnod sy’n arwain at yr etholiad, nid oes llawer wedi newid o ran sylwedd ein gwaith (er bod y doreth o ddeddfwriaeth sydd wedi dod i law cyn diwedd y tymor wedi bod yn her a hanner i bawb).
Fodd bynnag, bu newid amlwg mewn pwyslais o ran cynnwys a naws ein gwaith. I ddechrau, mae’n amlwg bod mwy o naws wleidyddol i’r cellwair sy’n digwydd yn y Siambr wrth i'r pleidiau sy’n cystadlu brofi elfennau o'u maniffestos. Yn naturiol, daw hyn â'i heriau ei hun o ran y rhai sy'n preswylio yn ein bwth cyfieithu newydd sbon danlli. Yn y cyfamser, ym myd cyfieithu testun, rydym wedi bod yn gwneud llawer mwy o gynnwys am yr etholiad ei hun, a'r senarios posibl a allai ddod i’r amlwg yn y Seithfed Senedd. Beth bynnag, rydyn ni i gyd bellach yn paratoi ar gyfer yr heriau sydd ar y gorwel, y tu hwnt i lonyddwch twyllodrus y diddymiad.
Gwrandewch ar Cai yn siarad am ei rôl ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru.
Ewch i'n tudalen etholiad i gael gwybod pam mae'r etholiad yn bwysig a sut y gall eich pleidlais lywio dyfodol Cymru.