Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 2012

Cyhoeddwyd 18/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i greu amgylchedd sy’n hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i bawb, a lle y caiff yr holl staff, Aelodau’r Cynulliad, staff yr Aelodau a’r cyhoedd eu trin gyda thegwch, cwrteisi a pharch. Ar sail egwyddor cydraddoldeb, byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod modd i bawb yng Nghymru ddod o hyd i wybodaeth am fusnes y Cynulliad a chymryd rhan yn ein gwaith. Ers i mi ddod yn Llywydd y Cynulliad ym mis Mai y llynedd, rwyf wedi mwynhau bod mewn sefyllfa i gefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth yma yn y Cynulliad. O Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod i Fis Hanes Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol, rydym wedi cynnal digwyddiadau, ac wedi darparu canolfan lle roedd modd i gynifer o grwpiau amrywiol o Gymru benbaladr ddod at ei gilydd i ddathlu eu gwaith. Mae’r Cynulliad yn dathlu Wythnos Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yr wythnos hon, pan fyddwn yn rhoi cyfle i staff y Cynulliad, yr Aelodau a Staff Cymorth yr Aelodau ddysgu rhagor am y gymdeithas amrywiol yr ydym yn byw ynddi. Bob dydd yr wythnos hon, byddwn yn rhannu gwybodaeth ar y blog hwn am grwpiau gwahanol sydd wedi’u difreinio, a gobeithio, drwy godi ymwybyddiaeth o’r grwpiau sydd weithiau’n cael eu hystyried fel grwpiau sydd ar yr ymylon yn ein cymdeithas, gallwn ddangos ein hymrwymiad i fod yn sefydliad sy’n croesawu ac yn cynrychioli buddiannau pawb yng Nghymru. Rosemary Butler