Y Cynulliad yn eich ardal chi – cyflwyniad i Gymdeithas Ddiwylliannol Capel Lôn y Felin
Cyhoeddwyd 13/02/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
Yn ddiweddar, ymwelodd Lowri Williams, Rheolwr Allgymorth Gogledd Cymru Cynulliad Cenedlaethol Cymru, â Chymdeithas Ddiwylliannol Capel Lôn y Felin i sgwrsio â’r aelodau am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cafodd yr ymweliad ei drefnu ar ôl i Lowri gael sgwrs gydag un o aelodau’r Gymdeithas ar fws y Cynulliad yn Sioe Môn y llynedd.
Rhoddodd Lowri gyflwyniad byr a gwrando ar farn y gynulleidfa. Rhoddwyd gwybodaeth am sut y gellir dylanwadu ar waith y Cynulliad a gwneud yn siŵr bod eu llais yn cael ei glywed.