Cynhelir etholiad nesaf y Senedd ar 7 Mai 2026. Bydd gan yr Aelodau a etholir gennych y pŵer i wneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio ar bawb yng Nghymru.
Ond beth yn union y gall y Senedd (Senedd Cymru) wneud penderfyniadau amdanynt?
Mae rhai o'r materion y mae'r Senedd – ac Aelodau o'r Senedd – yn gyfrifol amdanynt yn cynnwys:
- Amaethyddiaeth
- Diwylliant
- Addysg
- Yr Amgylchedd
- Gwasanaethau gofal iechyd ac iechyd
- Rhai trethi
- Trafnidiaeth
- Y Gymraeg
Y Senedd sy’n gyfrifol am gyfreithiau a phenderfyniadau ar lawer o'r materion sy'n effeithio ar fywyd bob dydd yng Nghymru, ond mae rhai materion fel amddiffyn neu fewnfudo yn cael eu penderfynu gan Senedd y DU yn San Steffan.
Er bod y pŵer i wneud cyfreithiau am y rhain a materion eraill yn parhau gyda Senedd y DU, mae'r Senedd yn dal i drafod sut maen nhw'n effeithio ar Gymru, a gall Aelodau godi pryderon ar eich rhan.
Pam mae hyn yn bwysig?
Mae'n bwysig gwybod y gwahaniaeth rhwng pwerau'r Senedd a San Steffan oherwydd gall deall pwy sydd â phŵer dros faterion penodol eich helpu i ddwyn gwleidyddion i gyfrif.
Gelwir y gwleidyddion sy'n eich cynrychioli chi a'ch cymuned yn y Senedd yn Aelodau o'r Senedd, ac maent yn wahanol i'r gwleidyddion sy'n eich cynrychioli yn San Steffan, sy'n cael eu hadnabod fel Aelodau Seneddol (ASau).
Er enghraifft, efallai yr hoffech godi pryder am eich ysbyty lleol. Os ydych chi'n gwybod mai’r Senedd sy’n gyfrifol am ofal iechyd yng Nghymru, gallwch gysylltu ag unrhyw un o'ch Aelodau o’r Senedd am y mater, neu ymweld â'i swyddfa yn eich etholaeth.
Neu efallai yr hoffech godi pryder ynghylch plismona yn eich ardal. Senedd y DU sy’n gweud cyfreithiau am blismona, felly eich AS sydd â chyfrifoldeb am newid y gyfraith. Fodd bynnag, gall eich Aelodau o’r Senedd barhau i godi pryderon, craffu ar sut mae plismona’n effeithio ar gymunedau yng Nghymru, a chynrychioli eich barn.
Yn fyr, drwy wybod lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud a phwy sydd â llais o ran gwneud y penderfyniadau hynny, gall eich helpu i benderfynu sut i gymryd rhan.
Dysgwch ragor am hanes pwerau datganoledig yng Nghymru.
Sut mae cysylltu ag Aelodau o’r Senedd?
Gallwch gysylltu ag unrhyw un o’ch Aelodau o’r Senedd – yn bersonol, ar-lein, neu dros y ffôn – waeth pwy y gwnaethoch chi bleidleisio drostynt. Maen nhw i gyd yn eich cynrychioli chi’n gyfartal.
Eich Aelodau chi yw eich cynrychiolwyr yn Senedd Cymru, a gallan nhw ofyn cwestiynau i Lywodraeth Cymru ar eich rhan.
Ddim yn siŵr pwy yw eich Aelodau? Defnyddiwch eich cod post i chwilio amdanyn nhw.
Sut mae canfod rhagor am Etholiad y Senedd?
Bydd yr etholiad ar 7 Mai 2026 yn gweld y newid mwyaf i'r Senedd ers 25 mlynedd. Bydd pleidleiswyr yn ethol 96 o Aelodau i etholaethau newydd, a hynny drwy ddefnyddio system bleidleisio wahanol.
Ewch i'n canolbwynt Etholiadau i ddysgu rhagor.