Y Tîm Allgymorth yn lansio ei gyfrif Twitter ei hun!

Cyhoeddwyd 18/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Yr wythnos hon, lansiwyd cyfrif Twitter ar gyfer Tîm Allgymorth Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn rhoi cipolwg i'r cyhoedd ar y gwaith rydym yn ei wneud bob dydd i gefnogi busnes y Cynulliad ac i ymgysylltu â phobl Cymru. O'r cyfrif @SeneddAllgym byddwn yn trydar am ein gwaith, o ran mynd allan i gymunedau ledled Cymru i ymgysylltu â grwpiau a rhoi gwybod iddynt am waith y Cynulliad ac am sut y gallant gymryd rhan drwy ein gweithdai Deall ac Ymgysylltu. Byddwn yn trydar am y grwpiau a'r sefydliadau yr ydym wedi ymweld â hwy, yn ogystal â rhai o'r syniadau gwych yr ydym wedi clywed amdanynt gan ddinasyddion ledled Cymru. twitter cymraeg Mae ein gweithdai Deall ac Ymgysylltu yn deillio o'n cred ym mhwysigrwydd sicrhau bod dinasyddion yn gwir ddeall pwy sy'n eu cynrychioli a'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar eu rhan. Rydym am sbarduno dadl sydd wedi'i seilio ar wybodaeth a dealltwriaeth go iawn, ac rydym am ganiatáu i'r cyhoedd gael sicrwydd bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn y broses o wneud penderfyniadau. Gall sicrhau llais gwell i ddinasyddion ddim ond gael effaith gadarnhaol ar y penderfyniadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru sydd, yn eu tro, yn effeithio arnom i gyd. Mwy am ein gweithdai Deall ac Ymgysylltu. Housing Bill workshop Drwy'r cyfrif hwn, byddwn hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddilynwyr am y gwaith yr ydym yn ei wneud drwy ein partneriaethau. Ar ôl gweithio yn agos gyda grwpiau fel Sgowtiaid Cymru, Merched yn Gwneud Gwahaniaeth a'r Gymdeithas Strôc, mae'r Tîm Allgymorth wedi datblygu perthynas agos gyda sefydliadau. Mae hyn wedi bod o fudd i bawb, ac wedi bod yn gyfle i rannu gwybodaeth am sut i gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel ein gwaith ar ddatblygu adnoddau ar gyfer Bathodyn Her Democratiaeth ar gyfer Sgowtiaid Cymru. Mwy am ein hadnoddau ar gyfer Bathodyn Her Democratiaeth. Cadwch olwg ar y wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgareddau drwy ddilyn ein cyfrif Twitter newydd: @SeneddAllgym Fel arall, gallwch gadw golwg ar ein gwaith drwy ddilyn tudalennau'r Tîm Allgymorth ar wefan y Cynulliad.