Ymgynghoriadau Haf Y Senedd - Sut I Gymryd Rhan

Cyhoeddwyd 02/08/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae pwyllgorau newydd y Chweched Senedd ar waith, ac mae angen eich mewnbwn arnynt i helpu i benderfynu ar eu blaenoriaethau ar gyfer y tymor sydd i ddod.

 

Mae’r pwyllgorau yn gofyn am eich barn ar y hyn yr hoffech iddynt edrych arnynt mewn perthynas â’u chyfrifoldebau. Dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud a helpu i lunio gwaith y Chweched Senedd.

 

Isod fe welwch fanylion am yr hyn y mae pob pwyllgor yn ymgynghori arno a sut y gallwch chi gymryd rhan.

 

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi'i sefydlu gan y Senedd i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc; addysg; ac iechyd, gwasanaethau gofal, a gofal cymdeithasol fel y maent yn ymwneud â phlant a phobl ifanc. Rhwng nawr a'r gaeaf, byddwn yn rhoi ystyriaeth gychwynnol i beth ddylai ein blaenoriaethau fod ar gyfer y Senedd hon.

 

Er mwyn helpu i lywio cynllun strategol a blaenraglen y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rydym yn gofyn am eich barn ar yr hyn y credwch, ar hyn o bryd, y dylai ein prif flaenoriaethau fod yn ystod y Chweched Senedd (2021-2026).

 

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan ddydd Gwener 17 Medi 2021.

 

Gallwch gymryd rhan yn ymgynghoriad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yma.

 

 

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn i bobl rannu eu barn ynghylch beth ddylai fod yn brif flaenoriaethau i’r Pwyllgor eu hystyried yn ystod y Chweched Senedd.

 

Yn ogystal â gofyn am syniadau gwreiddiol gan bobl am y prif heriau sy’n wynebu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofalwyr, a’r adferiad yn dilyn COVID-19, hoffai’r Pwyllgor glywed sylwadau ynghylch nifer o faterion penodol y mae Aelodau’r Pwyllgor wedi penderfynu arnynt. Mae’r materion hyn yn cynnwys:

 

  • Iechyd y cyhoedd ac atal salwch;
  • Materion sy’n effeithio ar y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol;
  • Mynediad at wasanaethau iechyd meddwl;
  • Arloesi ar sail tystiolaeth ym maes iechyd a gofal Cymdeithasol;
  • Cefnogaeth a gwasanaethau ar gyfer gofalwyr di-dâl;
  • Mynediad at wasanaethau adsefydlu i’r rhai sydd wedi cael COVID ac i eraill; a
  • Mynediad at wasanaethau ar gyfer cyflyrau cronig tymor hir, gan gynnwys cyflyrau cyhyrysgerbydol

 

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed gan wahanol bobl, cymunedau, sectorau, grwpiau a sefydliadau, yn enwedig pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y materion sydd o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor. Mae’n gofyn i unrhyw un sydd â sylwadau ar unrhyw un o’r uchod, neu bob un o’r uchod, neu’n wir unrhyw un a hoffai wneud sylwadau mwy cyffredinol ar y blaenoriaethau o ran gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofalwyr, neu’r adferiad yn dilyn COVID-19, i gwblhau’r ffurflen ar wefan y Pwyllgor a’i hanfon at SeneddIechyd@senedd.cymru erbyn 16.00 ar 17 Medi 2021.

 

Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

 

Mae'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn ar ei flaenoriaethau ar gyfer tymor y Senedd hon. Pwrpas yr ymgynghoriad yw helpu i lywio cynllunio gwaith strategol a blaengar y Pwyllgor. Hoffai'r Pwyllgor glywed barn ar beth ddylai ei flaenoriaethau fod yn ystod y Chweched Senedd, yn enwedig mewn perthynas â meysydd blaenoriaeth allweddol am y 12 mis nesaf, gan gynnwys effaith Covid ac adferiad o'r pandemig.

 

Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg tan ddydd Gwener 17 Medi.

 

Gallwch gwblhau ymgynghoriad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yma.

 

Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Sefydlwyd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ar 23 Mehefin 2021 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar ei materion o ran gwariant, gweinyddiaeth a pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): y Gymraeg, diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; cyfathrebu, darlledu; y cyfryngau, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol.

Wrth i ni fwrw ymlaen â gwaith y pwyllgor, hoffem glywed gennych os ydych chi’n gweithio mewn unrhyw un o’r meysydd hyn. Gallwch ysgrifennu atom a rhoi gwybod i ni:

  • Beth yw effaith pandemig COVID-19 ar hyn o bryd, a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i liniaru effaith y pandemig a galluogi adferiad yn dilyn y pandemig?
  • Pa faterion ddylai’r pwyllgor eu blaenoriaethu wrth gynllunio ein rhaglen waith ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir?
  • Sut mae Brexit a’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE yn effeithio arnoch chi a’ch sefydliad? Pa gymorth ydych chi wedi’i gael i ymateb i’r newidiadau? Pa gymorth pellach, os o gwbl, sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

Caiff eich ymateb ei ddefnyddio i lywio ein blaenraglen waith tymor hir a’n gwaith mwy uniongyrchol o graffu ar Lywodraeth Cymru.

Os hoffech i’ch sylwadau lywio ein gwaith o graffu ar Weinidogion Cymru, sicrhewch eu bod yn ein cyrraedd erbyn 3 Medi 2021.

Gallwch gwblhau ymgynghoriad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol trwy e-bostio senedd diwylliant@senedd.cymru.