Yr hyn a ddywedsoch wrthym am amseroedd aros ar gyfer triniaeth a diagnosis.

Cyhoeddwyd 21/04/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/04/2022   |   Amser darllen munud

Mae cyfwerth ag 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd ar restr aros am ddiagnosis neu driniaeth.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r bobl sy’n aros am driniaeth wedi cynyddu 51 y cant ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn bod COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar amseroedd aros.

Yn 2021, lansiodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad i effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl sy'n aros am ddiagnosis neu driniaeth.

Rhoddodd pobl o bob rhan o Gymru dystiolaeth dorcalonnus i’r Pwyllgor, gan rannu eu profiadau a’r effaith wirioneddol y mae’r mater hwn ei chael ar eu bywydau.  

Mae adroddiad y Pwyllgor bellach wedi'i gyhoeddi, ac mae’n yn nodi sut y dylai Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r ôl-groniad o ran rhestrau aros y GIG a chefnogi cleifion sy’n aros am driniaeth.


Profiad byw

Mae Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd yn gweithio gyda phobl a sefydliadau ledled Cymru i glywed profiad byw o’r materion sy'n effeithio arnynt.

Fe wnaeth y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion gefnogi’r ymchwiliad drwy gynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda phobl sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth ar hyn o bryd, neu sydd wedi bod yn aros.

Gweithiodd y Tîm mewn partneriaeth â sefydliadau perthnasol i ddod o hyd i gyfranogwyr a sicrhau eu bod yn cael cymorth a chyngor priodol drwy gydol y broses.

Gwnaed ymdrechion i sicrhau bod y cyfranogwyr yn dod o ardaloedd y gwahanol fyrddau iechyd yng Nghymru a bod cydbwysedd bras rhwng y rhywiau. Roedd oedrannau’r cyfranogwyr yn amrywio o 23 i 83.

Cyfwelwyd â chyfanswm o 13 o bobl, a chymerodd 18 o bobl ran yn y grwpiau ffocws.

Mae'r holl astudiaethau achos wedi cael eu gwneud yn ddienw.

 

Wedi mynd yn angof

Datblygodd Cyfranogwr A broblemau a oedd yn effeithio ar ei llygaid, ac mewn ymweliad arferol â’i hoptegydd canfuwyd ei bod yn araf ddatblygu cataractau.

Yn dilyn atgyfeiriad cychwynnol, roedd diffyg cyfathrebu ar ran y bwrdd iechyd yn gadael iddi deimlo ei bod wedi colli ei hannibyniaeth drwy orfod dibynnu cymaint ar ei theulu a’i ffrindiau.

“Rydw i’n bensiynwr actif iawn, rydw i’n hoffi bod yn annibynnol, roeddwn i’n arfer gyrru i weld fy merch a nawr nid yw hynny’n bosibl. Rydw i'n dal i yrru ond mae gyrru yn y tywyllwch neu mewn tywydd gwael nawr yn risg diogelwch mawr i mi ac eraill.”

Ar ôl clywed dim am flwyddyn, dywedodd y bwrdd iechyd wrthi o’r diwedd fod yr amser aros yn 27 mis o’r adeg atgyfeirio.

Mae hi'n teimlo ei bod wedi mynd yn angof ac mae'n pryderu bod eraill sydd â phroblemau tebyg yn peidio â chael sylw.


'Dim opsiwn ond mynd yn breifat'

Cafodd Cyfranogwr B lawdriniaeth lwyddiannus i osod clun newydd, ond dywedodd y llawfeddyg ei bod y bosibl y byddai angen newid y glun arall cyn hir.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan gafodd boen yn ei ben-glin chwith, dychwelodd Cyfranogwr B i'r ysbyty i gael pelydr-X.

“Ar ôl i belydrau X ddangos dim byd, dywedodd y meddyg teulu efallai mai’r glun chwith oedd y broblem. Doedd hyn ddim yn syndod mawr. Cefais bresgripsiwn cyffuriau lladd poen a chefais fy anfon i glinig cyhyrysgerbydol. Roedd hyn yn wastraff amser llwyr.”

Ni wellodd pethau dros y 12 mis nesaf. Teithiodd yn ôl ac ymlaen sawl gwaith rhwng y meddyg teulu a ffisiotherapydd, cyn iddo gael diagnosis bod ganddo broblem amlwg gyda’r glun, a chafodd ei atgyfeirio at ymgynghorydd.

“Ar ôl cael atgyfeiriad ym mis Awst 2019, chlywais i ddim byd am weddill y flwyddyn. Yn y pen draw, ar ôl gofyn a gofyn, llwyddais i ddeall ’mod i ar restr aros.”

Erbyn hyn, roedd yn anodd iawn i Gyfranogwr B gerdded ac roedd hyn yn effeithio ar ei fywyd bob dydd.

Ar ôl cael gwybod bod “rhestr aros y GIG [ar gyfer llawdriniaeth] yn 3 blynedd ac yn cynyddu”, teimlai nad oedd ganddo opsiwn ond mynd yn breifat.

 

Crynodeb o’r canfyddiadau

Daeth nifer o themâu allweddol i'r amlwg o'r profiadau a rannwyd gan bobl â’r Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Problemau cyfathrebu a aeth yn waeth oherwydd Covid-19.
  • Anghydraddoldebau a effeithiodd ar eu gallu i gael gofal, gan gynnwys anghydraddoldebau daearyddol ac ariannol.
  • Diffyg cymorth gan y GIG i’w helpu i reoli eu cyflyrau, gan gynnwys cymorth i reoli poen a chymorth iechyd meddwl.
  • Sawl enghraifft o broblemau o ran atgyfeiriadau i fyrddau iechyd cyfagos a hefyd atgyfeiriadau ar draws ffiniau.
  • Mae sawl cyfranogwr naill ai wedi ymchwilio i’r posibiliadau o gael triniaeth breifat, neu wedi cael triniaeth breifat, oherwydd hyd yr amseroedd aros.
  • Cododd y cyfranogwyr faterion systematig ehangach o fewn y GIG a chwaraeodd ran mewn amseroedd aros hirach, gan gynnwys cydweithredu gwael rhwng byrddau iechyd.
  • Roedd camddiagnosis cynnar a diffyg gwybodaeth o fewn y GIG am gyflyrau penodol wedi achosi amseroedd aros llawer hirach a phrofiadau gwaeth i gleifion.
  • Dibyniaeth ar sefydliadau trydydd sector i ddarparu’r cymorth i gleifion ar restrau aros y dylai’r GIG ei ddarparu.


Darllenwch ragor o brofiadau pobl

Darllenwch ragor am brofiadau pobl o aros am driniaeth a diagnosis, a gwaith y Tîm Ymgysylltu â Dinasyddion.

Lawrlwytho’r adroddiad

 


 

Dogfennau a lincs