A ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru?

Cyhoeddwyd 12/11/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/11/2018

Bydd ymchwiliad newydd yn ystyried a ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau Cymru.

 

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn edrych ar y mater wrth i Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru baratoi i gyflwyno deddfwriaeth y flwyddyn nesaf a allai newid pwy sy'n gymwys i bleidleisio.

O dan gyfraith y DU, mae carcharorion sy’n gwneud dedfryd o garchar yn cael eu gwahardd rhag pleidleisio. Ond canfu dyfarniad nodedig yn Llys Hawliau Dynol Ewrop yn 2005 bod gwaharddiad o'r fath yn groes i gyfraith hawliau dynol rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae tua 4,700 o garcharorion yng ngharchardai Cymru.

Er mwyn cydymffurfio â'r dyfarniad, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i roi'r hawl i garcharorion sydd ar drwydded dros dro neu sydd ar gyrffyw lle maent yn cael eu cyfyngu i'r cartref, bleidleisio. Nid yw Llys Hawliau Dynol Ewrop yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, sy'n golygu na fyddai'r DU yn cael ei heithrio yn dilyn Brexit.

Ers mis Ebrill eleni, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael pwerau dros ei system etholiadol ei hun.

Yn dilyn y ddau ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol ar gyfer etholiadau lleol ac etholiadau'r Cynulliad, ysgrifennodd y Llywydd at y Cadeirydd ar 6 Medi yn estyn gwahoddiad i'r Pwyllgor hwn archwilio'r mater, a dod i farn drawsbleidiol ynghylch a ddylid ymestyn hawliau pleidleisio i garcharorion.

Dywedodd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau fod “...rhoi hawliau pleidleisio i garcharorion yn fater dadleuol ac rwy'n siŵr y byddwn yn cael safbwyntiau hollt ar hyn.”

"Mae'n bwysig ein bod yn clywed pob agwedd ar y mater hwn ac yn eu hystyried fel rhan o'n gwaith, felly byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn yr ymchwiliad hwn i gymryd rhan yn ein hymgynghoriad."

Bydd y Pwyllgor yn gofyn nifer o gwestiynau fel rhan o'i ymchwiliad, gan gynnwys:

  • A ddylai carcharorion gael yr hawl i bleidleisio?

  • A ddylai hawl carcharor i bleidleisio ddibynnu ar hyd ei ddedfryd, y math o drosedd a gyflawnwyd a/neu ei ddyddiad rhyddhau disgwyliedig?

  • Pe bai carcharorion yn cael yr hawl i bleidleisio, pa ddull y dylid ei ddefnyddio? (er enghraifft, pleidlais bost, yn electronig, bythau symudol yn y carchar, neu ddull arall)

  • A ddylai ystyriaethau arbennig fod yn berthnasol i droseddwyr ifanc yn y ddalfa os yw'r oedran pleidleisio'n cael ei ostwng i bobl ifanc 16 a 17 oed yn gyffredinol?

  • Pe bai carcharorion yn cael yr hawl i bleidleisio, ym mha gyfeiriad y dylent gael eu cofrestru i bleidleisio?         

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i glywed barn a syniadau unrhyw un sydd â diddordeb yn y mater hwn ac felly mae wedi sefydlu trafodaeth ar-lein lle gall pobl rannu eu sylwadau.

Mae pobl hefyd yn gallu cyflwyno tystiolaeth yn ysgrifenedig neu drwy e-bost o hyd drwy fynd i dudalennau'r Pwyllgor ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.

7 Ionawr yw'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad.