A ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o bwerau mewn perthynas â Chynghorau Cymunedol? Mynegwch eich barn
A ydych chi’n credu y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o bwerau i ddeddfu mewn perthynas â Chynghorau Cymunedol yng Nghymru?
Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2 wrthi’n craffu ar Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch Llywodraeth Leol sy’n ymwneud â chynghorau cymunedol a lwfansau cynghorwyr a recriwtio a chadw cynghorwyr.
Mae’r Pwyllgor am glywed gan yr holl grwpiau sydd â diddordeb ynghyd a’r cyhoedd, i gyfrannu at y broses graffu.
Ar hyn o bryd, nid oes gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru y pwer i ddeddfu i newid y gyfraith mewn perthynas â chyfansoddiad, strwythur a chyfrifoldebau cynghorau cymunedol, adolygiadau cymunedol, a’r berthynas rhwng haenau o lwfansau cynghorwyr neu lywodraeth.
Dylai unrhyw un sydd am gyflwyno tystiolaeth wneud hynny drwy ei chyflwyno’n electronig yn legislationoffice@wales.gsi.gov.uk neu drwy ysgrifennu at Sarah Beasley, Clerc y Pwyllgor, Y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, CF99 1NA.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gorchymyn arfaethedig, ewch i
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth yw dydd Gwener 18 Medi.