A oes angen deddfu i ddatblygu Cymru well? - cwestiwn i bwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 25/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn a oes angen deddfu i ddatblygu Cymru well.

Mae 'Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)' Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd, yn nodi cyfres o nodau ar gyfer datblygu cymdeithas fwy llewyrchus, cadarn, iach a chyfartal.

 

Yn ymarferol, nod Llywodraeth Cymru yw cyflawni hynny drwy greu byrddau gwasanaethau cyhoeddus statudol a fyddai'n cyfuno cynrychiolwyr o gynghorau lleol, byrddau iechyd, awdurdodau tân a Cyfoeth Naturiol Cymru; oll yn unedig yn y nod cyffredin o wella canlyniadau i bobl leol.

Mae cynnig hefyd yn y Bil i greu 'Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol'. Byddai hon yn rôl ymgynghorol â chyfrifoldeb am arwain cyrff cyhoeddus i ddod o hyd i'r ateb mwyaf hyfyw ar gyfer eu cymuned ac i weithio i ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy i mewn i fywyd cyhoeddus.

Cam cyntaf y broses ddeddfu yn y Cynulliad yw gofyn i bwyllgor ystyried a yw Bil yn angenrheidiol, neu a ellir cyflawni ei amcanion drwy gyfreithiau presennol. Bydd hefyd yn ystyried a fydd y Bil yn cyflawni'r amcanion a nodir.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd: “Mae hon yn weledigaeth fawreddog gan Lywodraeth Cymru. Mae pawb am weld cymdeithas fwy llewyrchus, iach, cynaliadwy a chynhwysfawr yng Nghymru.

“Bydd y Pwyllgor yn trafod a oes angen cyfraith newydd ar gyfer y weledigaeth hon, ac a fydd y mesurau y mae'r Llywodraeth wedi'u hamlinellu yn cyflawni'r weledigaeth honno.

“Fel y mae'r enw'n awgrymu, mae gan y Bil hwn y potensial i effeithio ar bawb yng Nghymru am genedlaethau i ddod, felly mae'n hanfodol ein bod yn casglu cymaint o safbwyntiau â phosibl er mwyn sicrhau, os daw yn gyfraith, y bydd wir yn helpu i ddatblygu Cymru well.”

Bydd y Pwyllgor yn trafod prif feysydd y Bil, sef:

  • Sut y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn gosod datblygu cynaliadwy fel egwyddor graidd yng ngwaith y Llywodraeth.

  • Eglurhad cyffredinol ynghylch beth yw ystyr yr egwyddor "nod cyffredin" a "datblygu cynaliadwy", a phwy gaiff eu cynnwys yn y rhestr o Gyrff Cyhoeddus.

  • Sut y caiff unrhyw gynnydd ei fesur a sut yr adroddir ar hynny.

  • Rhagolwg o ran goblygiadau ariannol y Bil.

Os hoffech gyflwyno eich barn ar y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), anfonwch e-bost at: PwyllgorAC@cymru.gov.uk, neu ysgrifennwch at:

Clerc y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1NA

Fel arall, dilynwch y Pwyllgor ar Twitter: @AmgylchSenedd

Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gael yma.

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yma.