A oes digon o gefnogaeth ar gael ar gyfer pobl sy’n agored i niwed sy’n ymgymryd â dysgu sy’n seiliedig ar waith? Cyfle i ddweud eich dweud

Cyhoeddwyd 20/07/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

A oes digon o gefnogaeth ar gael ar gyfer pobl sy’n agored i niwed sy’n ymgymryd â dysgu sy’n seiliedig ar waith? Cyfle i ddweud eich dweud

20 Gorffennaf 2010

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio ymchwiliad heddiw (23 Gorffennaf) i brofiadau pobl ifanc sy’n agored i niwed sy’n ymgymryd â dysgu sy’n seiliedig ar waith, ac mae’n galw am dystiolaeth gan bartïon sydd â diddordeb.

Mae’r ymchwiliad yn deillio o ddeiseb a gyflwynwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol gan Gweithredu dros Blant, a gododd bryderon ynghylch cyfleoedd dysgu ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed, yn enwedig y rheini sy’n ddigartref.

Bydd y Pwyllgor yn awr yn cychwyn ymchwiliad ffurfiol i archwilio profiadau pobl ifanc sy’n agored i niwed sy’n byw’n annibynnol ac sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni dysgu sy’n seiliedig ar waith.

“Mae’r Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth bwerus am y caledi y mae rhai pobl ifanc sy’n ymgymryd â dysgu sy’n seiliedig ar waith ac sy’n byw’n annibynnol ar eu teuluoedd yn ei wynebu,” meddai Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Dylid rhoi’r cyfle gorau posibl i bob unigolyn ifanc hyfforddi a chael cymwysterau, felly mae hwn yn ymchwiliad pwysig a fydd yn edrych ar y sefyllfa bresennol ac yn asesu a ddylid gwneud gwelliannau.

“Mae’r Pwyllgor yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y maes hwn neu ddiddordeb ynddo i gysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i roi ei farn i ni.”

I gyflwyno tystiolaeth, anfonwch e-bost at: petition@wales.gov.uk

Neu, anfonwch eich ymatebion at: Clerc y Pwyllgor Deisebau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Mae’r materion penodol sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor yn cynnwys:

-Faint o leoliadau dysgu sy’n seiliedig ar waith sydd ar gael a beth yw eu hansawdd
-Y gwahaniaethau rhwng y lwfansau a grantiau hyfforddi gwahanol
-Yr effaith ar fudd-daliadau
-Yr arian sydd ar gael ar gyfer teithio
-Y cymorth bugeiliol sydd ar gael
-Y datblygiad rhwng y rhaglenni hyfforddi
-Ansawdd y cyfleoedd hyfforddi