A oes gwersi i’w dysgu o ddrafftio cyfreithiau Llywodraeth Cymru o’r tair blynedd diwethaf? Cyfle i ddweud eich dweud.

Cyhoeddwyd 16/08/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

A oes gwersi i’w dysgu o ddrafftio cyfreithiau Llywodraeth Cymru o’r tair blynedd diwethaf? Cyfle i ddweud eich dweud

16 Awst 2010

A oes gwersi i’w dysgu o ddrafftio cyfreithiau Llywodraeth Cymru o’r tair blynedd diwethaf? Cyfle i ddweud eich dweud.

Mae Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad byr y mae’n ei gynnal i’r gwersi y gellir eu dysgu o ddrafftio Mesurau Llywodraeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf.

Bydd y grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad yn edrych a oes gwersi y gellir eu dysgu o’u profiadau hyd yma a all effeithio ar y ffordd y caiff Mesurau eu drafftio yn y dyfodol.

Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn materion o arwyddocâd cyffredinol sydd wedi deillio o’r ffordd y cafodd Mesurau eu drafftio hyd yma.

Dywedodd Janet Ryder AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Ers mis Mai 2007, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi pasio un ar ddeg Mesur gan ddefnyddio’r pwerau a roddwyd iddo gan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 – wyth ohonynt yn ddeddfwriaethau Llywodraeth Cymru. Mae chwe Mesur arall wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac mae’r Cynulliad yn ystyried y rhain ar hyn o bryd.

“Byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich sylwadau am nifer o feysydd, gan gynnwys, y graddau y defnyddir iaith glir i ddrafftio Mesurau, a’r graddau y mae’r Mesurau yn rhoi eglurder cyfreithiol, y cydbwysedd rhwng yr hyn a gynhwysir ar wyneb Mesurau, a’r graddau y mae Memoranda Esboniadol yn darparu canllawiau defnyddiol ar gyfer Mesurau arfaethedig.

“Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb neu wybodaeth am y maes i gysylltu â Chynulliad Cenedlaethol Cymru i fynegi barn.”

Dylid anfon ymatebion drwy e-bost i: legislation.committee@cymru.gov.uk neu eu hanfon at: Clerc y Pwyllgor, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol, y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Ty Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, CF99 1NA erbyn 24 Medi 2010.