AC i ymweld â Lesotho i gryfhau cysylltiadau â’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 28/09/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

AC i ymweld â Lesotho i gryfhau cysylltiadau â’r Cynulliad Cenedlaethol

Bydd Mike German AC yn ymweld â Lesotho i greu cysylltiadau cryf rhwng y Cynulliad Cenedlaethol  a Senedd Lesotho. Yn ystod ei ymweliad, bydd hefyd yn cael cyfle i weld sut y mae’r wlad wedi elwa ar ymgyrch codi arian disgyblion ysgolion Caerdydd. Aeth Mr German i ymweld ag Ysgol Uwchradd Molappo gydag un o athrawon Ysgol Uwchradd Cathays, Caerdydd, yn ystod taith flaenorol i Lesotho i gasglu gwybodaeth. Pan ofynnwyd i’r pennaeth beth fyddai’n gwneud gwir wahaniaeth i’r ysgol, ateb y pennaeth oedd “gwartheg”. Ers hynny, mae Mr German a disgyblion Ysgol Uwchradd Cathays wedi codi £4,000, sy’n cael ei ddefnyddio gan yr ysgol i ehangu ei Rhaglen Amaethyddiaeth Gynaliadwy, i brynu gwartheg a chral ac i wella’r cyfleusterau dyfrhau. Bydd llaeth y gwartheg yn cynhyrchu incwm rheolaidd a fydd yn galluogi nifer o blant amddifad i fynd i’r ysgol, wedi i’w rhieni farw o HIV/AIDS. Cangen Cymru o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, sy’n noddi ymweliad Mike German â Lesotho, gyda chymorth Dolen Cymru, a sefydlwyd i hybu cyfeillgarwch a dealltwriaeth rhwng pobl Cymru a phobl  Lesotho, a thîm cymorth seneddol Rhaglen Datblygu HIV/AIDS y Cenhedloedd Unedig.  Yn ystod yr ymweliad, o 30 Medi i 6 Hydref, bydd hefyd yn cyfarfod â’r Groes Goch yn Lesotho, yn ogystal â swyddogion ac aelodau Senedd Lesotho. Bydd John Grimes, Pennaeth Dros Dro’r Pwyllgorau, yn y Cynulliad Cenedlaethol, hefyd yn ymweld â Lesotho i helpu i hyfforddi clercod yn Lesotho fel rhan o gynllun partneriaeth newydd. Dywedodd Mike German: “Er mai gwlad sy’n datblygu yw Lesotho a chanddi broblemau fel tlodi eithriadol a HIV/Aids, mae hi’n ddemocratiaeth seneddol sydd â thebygrwydd i Gymru. Mae Dolen Cymru wedi bod yn gwneud gwaith hynod werthfawr, a gobeithio y bydd Cymru yn gallu bod yn rhan o’r ystod o gymorth rhyngwladol a gynigir i Lesotho. Drwy ein cysylltiadau â Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad, rydym wedi gallu datblygu cyswllt seneddol â Lesotho a rhannu’n profiadau â democratiaeth sy’n datblygu. Yn ystod ymweliad blaenorol â Lesotho fe’m trawyd gan falchder, ysbryd ac optimistiaeth y bobl ac roeddwn yn benderfynol o geisio annog y Cynulliad i greu cysylltiadau cryfach.  Rwy’n falch iawn fod John yn dod gyda mi i rannu ei arbenigedd â staff Senedd Lesotho, ac edrychaf ymlaen at ymweliad aelodau a swyddogion Senedd Lesotho â Chymru.”