ACau i herio cyn chwaraewyr rhyngwladol mewn gêm rygbi elusen

Cyhoeddwyd 08/05/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

ACau i herio cyn chwaraewyr rhyngwladol mewn gêm rygbi elusen

Mae’r Aelodau Cynulliad Alun Cairns, Alun Davies, Dai Lloyd ac Andrew RT Davies, ymhlith eraill, yn edrych ymlaen at gael y cyfle i brofi’u sgiliau yn erbyn rhai o’u harwyr o’r byd chwaraeon.mewn gêm rhwng Tîm Llywydd Undeb Rygbi Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Iau 22 Mai ar faes Clwb Rygbi Crwydriaid Morgannwg (y gêm i gychwyn am 7.15pm). Yn y cyfamser, temtiwyd y cyn chwaraewr rhyngwladol Nigel Davies i ddychwelyd o’i ymddeoliad am un tro arall ar gyfer y gêm.

Bydd Davies, cyfarwyddwr datblygu rygbi Undeb Rygbi Cymru a chyn hyfforddwr Cymru a enillodd 29 cap, yn ymddangos ochr yn ochr â rhai cydweithwyr rhyngwladol enwog o’r gorffennol gan gynnwys pennaeth ffitrwydd tîm Cymru a’r cyn flaenasgellwr Mark Bennett a’r canolwr a enillodd bum cap Roger Bidgood.

Byddant yn chwarae yn erbyn tîm y Cynulliad Cenedlaethol dan arweiniad Alun Cairns AC, sy’n chwarae bachwr neu flaenasgellwr, a bydd yn cynnwys Aelodau’r Cynulliad, eu staff cymorth a staff o Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.                    

Caiff elw’r gêm ei rannu’n gyfartal rhwng Ymddiriedolaeth Elusennol Undeb Rygbi Cymru a Bowel Cancer UK sef elusen a ddewiswyd gan dîm rygbi’r Cynulliad Cenedlaethol gan fod ei sylfaenydd, y cyn Aelod Cynulliad Glyn Davies, wedi gwella o’r afiechyd.  

“Hon fydd fy ngêm gyntaf ers i mi chwarae yng ngêm dysteb Neil Jenkins yn erbyn Tîm Jason Leonard yn Stadiwm y Mileniwm - sgoriais gais i Loegr yn y diwedd yn y gêm honno, a dyna’r tro cyntaf i hynny ddigwydd hefyd!” meddai Davies.  “Chwaraeais i dîm Neil yn gynnar yn y gêm a dod oddi ar y cae am seibiant, ond tuag at y diwedd roedd tîm Jason yn brin o chwaraewyr felly gwisgais y crys gwyn ac yn y diwedd sgoriais y cais i Loegr a achosodd i’r gêm fod yn gyfartal ar ôl ochrgamu Paul Moriarty - a’i gwnaeth hyd yn oed yn fwy pleserus.  

“Gall fod yn hwyl i chwarae yn y gemau hyn a chyda’r holl elw’n mynd tuag at ddau achos teilwng iawn gallaf ddweud gyda dim ond elfen fach o gryndod, fy mod yn edrych ymlaen yn fawr iawn at yr achlysur.       

“Nid ydym wedi cwblhau’r tîm llawn eto, ond mae digon o dalent rygbi yng ngwahanol swyddfeydd yr undeb, ar wahân i sgiliau un neu ddau o’r cyn chwaraewyr rhyngwladol y bwriadwn eu defnyddio.  Ni fyddai’n gwneud y tro i Undeb Rygbi Cymru golli gêm fel hyn, ond rwy’n siwr bod ambell i chwaraewr awyddus yn y Senedd a fydd â syniadau eraill.”

Dywedodd Alun Cairns AC. “Sefydlodd y Cynulliad ei dîm rygbi tua dwy flynedd yn ôl, gyda’r bwriad o chwarae yn erbyn seneddau a chynulliadau eraill, felly rydym wedi’n synnu i gael chwarae yn erbyn tîm sy’n llawn o gyn chwaraewyr rhyngwladol a chwaraewyr rygbi proffesiynol, ac wrth ein bodd o gael gwneud hynny.  Mae Bowel Cancer UK yn elusen sy’n agos at ein calonnau wedi i’n cyn gydweithiwr a sylfaenydd y clwb Glyn Davies ymladd yr afiechyd a gwella ac rydym yn falch iawn o allu codi arian i’r elusen.                

“Rydym yn disgwyl gêm galed ond rydym heb ein curo yn y gêmau yr ydym wedi eu chwarae hyd yma ac nid ydym am roi’r gorau i’r record honno heb frwydr. Bydd yn rhaid i’r cyn chwaraewyr rhyngwladol fod ar eu gorau i’n curo! Nid ydym am ddatgelu pwy yw ein chwaraewyr eto a gadael i’r gwrthwynebwyr wneud eu gwaith cartref ond efallai y bydd gennym gyn chwaraewr cenedlaethol ein hunain, yn ogystal â chynrychiolaeth drawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad.  Fel rheol rydym gyferbyn â’n gilydd yn y Siambr felly mae’n braf gallu cydweithio ar gyfer rhywbeth fel hyn. ”

Ychwanegodd Llywydd Undeb Rygbi Cymru, Dennis Gethin: “Mae cefnogaeth dda i’r gêm eisoes o’r ddwy ochr gydag enwau mawr o rygbi’r gorffennol yn dod i gynrychioli Undeb Rygbi Cymru.  Mae digwyddiadau elusen fel hyn yn ffordd wych i chwaraeon a gwleidyddiaeth ddod ynghyd, rydym yn ddau sefydliad sydd â dylanwad mawr ar fywydau pob dydd pobl Cymru a dylem uno mor aml â phosibl ar gyfer achosion mor deilwng.   

“Roeddwn yn falch iawn o dderbyn yr her gan y Cynulliad Cenedlaethol ar ran Undeb Rygbi Cymru.  Yn naturiol, rygbi ar y lefel uchaf yw’n blaenoriaeth, ond rydym hefyd yn falch bod rygbi yng Nghymru yn ymwneud â chymryd rhan ar bob lefel a dyna pam ei bod yn haeddu ei statws fel ein gêm genedlaethol.“

Dywedodd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: “Mae rygbi’n chwarae rhan fawr a phwysig ym mywyd Cymru, gan annog trafodaeth ymysg cefnogwyr a dod â’r genedl ynghyd i gefnogi’r tîm cenedlaethol, ac rwy’n falch ei fod hefyd yn rhoi cyfle i Gynulliad Cenedlaethol ac Undeb Rygbi Cymru ddod ynghyd i gefnogi dwy elusen deilwng iawn.  Rwy’n diolch i Undeb Rygbi Cymru am dderbyn ein her a gobeithio y bydd y gêm yn rhoi mwynhad i bawb sydd ynghlwm â hi.