Nick Ramsay AS

Nick Ramsay AS

Adnewyddu Ysbyty Glan Clwyd – Datganiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd

Cyhoeddwyd 08/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Nick Ramsay AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd, wedi ymateb i adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth 8 Medi, ynghylch adnewyddu Ysbyty Glan Clwyd a gostiodd dros £60 miliwn yn fwy na’r hyn a gafodd ei gymeradwyo yn wreiddiol.  

Yn dilyn dau achos yn ymwneud ag asbestos yn 2010, gwnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gais i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf i gael gwared ar yr asbestos ac adnewyddu Ysbyty Glan Clwyd. Yn 2012, cytunodd Llywodraeth Cymru ar gyllid o £110.4 miliwn. Cafodd y broses gymhleth ei chwblhau yn llwyddiannus yn 2019, dim ond ychydig fisoedd yn hwyrach na’r disgwyl, ond am gost o £170.8 miliwn, sef bron i 55% yn fwy na’r gyllideb a gymeradwywyd yn wreiddiol. 

Mae adroddiad Archwilio Cymru – Adnewyddu Ysbyty Glan Clwyd – yn feirniadol na wnaeth y Bwrdd Iechyd na Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r gwendidau yn yr achos busnes.  

Wrth ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad, dywedodd Nick Ramsay AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd: 

“Mae adroddiad diweddaraf Archwilio Cymru yn rhoi darlun brawychus o brosiect adnewyddu’r GIG sydd wedi mynd ymhell dros y gyllideb.  Rwy’n cydnabod, wrth gwrs, bod tynnu asbestos o ysbyty sy’n gweithio tra’n cynnal diogelwch cleifion, staff ac ymwelwyr yn broses gymhleth.  Fodd bynnag, mae gorwariant o bron i 55 y cant ar yr hyn a gyllidebwyd fel prosiect gwerth £110 miliwn yn awgrymu i mi fod rhai disgyblaethau prosiect ariannol sylfaenol wedi cael eu chwalu.   

“Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ceisio cael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru a’r bwrdd iechyd nad yw hyn yn arwydd o broblemau ehangach wrth reoli prosiectau cyfalaf y GIG yng Nghymru.” 

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd yn gyfrifol am edrych ar sut mae Llywodraeth Cymru yn gwario ei chyllideb i sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael y gwerth gorau posibl am arian. 

Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru – Adnewyddu Ysbyty Glan Clwyd – ar gael yma