Adolygiad S4C– datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Cyhoeddwyd 29/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Mae Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, wedi cyhoeddi'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad adolygiad S4C a gyhoeddwyd heddiw. 

Dywedodd Mrs Sayed:

'Mae agweddau ar yr adolygiad hwn wedi fy siomi. Mae lluosedd o ran trefniadau cyllido wedi bod yn un o egwyddorion craidd S4C ac roedd elfen o gyllid gan y Llywodraeth yn sicrhau mwy o atebolrwydd – sy'n hanfodol o ystyried statws arbennig S4C, nid yn unig fel darlledwr, ond hefyd fel yr unig ddarlledwr teledu Cymraeg yn y byd. Gan y bydd yr holl gyllid bellach yn cael ei drosglwyddo i'r BBC, bydd yn hanfodol i'r BBC sicrhau yr un safonau atebolrwydd â'r hyn a geir ar hyn o bryd.

Rwy'n gobeithio na fydd y newidiadau hyn yn golygu llai o arian eto i S4C, neu y byddai ariannu'r sianel drwy ffi'r drwydded yn arwain at lai o arian i'r BBC yng Nghymru ar gyfer newyddion Cymru a rhaglenni am Gymru. Mae angen eglurder ynglŷn â lle y bydd cyllid cyfredol o £6.8 miliwn gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ar gyfer S4C yn mynd ar ôl 2022/23.

Rwy'n falch bod yr Adroddiad wedi derbyn nifer o'r argymhellion allweddol yn adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y llynedd (Tu Allan i'r Bocs – Awst 2017) am gylch gorchwyl S4C, cyfyngiadau daearyddol, gweithgaredd masnachol, cynnig digidol a llywodraethu. Rwyf hefyd yn croesawu'r cam tuag at setliadau ariannu mwy hir dymor a gwyrdroi'r toriadau cyllido sydd ar y gweill, mae cyhoeddiad heddiw yn anwybyddu'r toriadau enfawr o 36 y cant mewn termau real y mae S4C wedi gorfod ymdopi â hwy ers 2010.

Nid yw'r adolygiad hwn wedi ymdrin â'r mater canolog o gyllido ac atebolrwydd. Ar y gorau, mae'n argymell anwybyddu'r mater, ac yn rhoi S4C mewn sefyllfa sydd, o bosibl, hyd yn oed yn fwy bregus, gyda chwestiynau difrifol heb eu hateb ynghylch ei hannibyniaeth a gallu S4C yn y dyfodol – a BBC Cymru - i barhau i ddarparu yr un lefel o gynnwys."