Adroddiad ar Dlodi ac Amddifadedd yn y Gymru Wledig yn herio Llywodraeth y Cynulliad

Cyhoeddwyd 23/07/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad ar Dlodi ac Amddifadedd yn y Gymru Wledig yn herio Llywodraeth y Cynulliad

Bydd Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Cynullid Cenedlaethol Cymru yn lansio ei adroddiad ar Dlodi ac Amddifadedd yn y Gymru Wledig ym mhafiliwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mercher 23 Gorffennaf am 11.15am.

Bydd yr adroddiad yn herio Llywodraeth y Cynulliad i gydnabod a deall y gwahanol ffyrdd y mae tlodi yn effeithio ar fywydau pobl yn y Gymru wledig. Mae’r adroddiad yn dangos bod natur tlodi mewn cymunedau gwledig yn wahanol ac yn rhestru’r materion sy’n gysylltiedig â hynny.

Dywedodd Alun Davies, Cadeirydd y Pwyllgor, “Clywsom dystiolaeth drawiadol ac emosiynol gan lawer o wahanol bobl. Mae’n amlwg nad yw’r llywodraeth yn deall gwir effaith tlodi ar bobl yn y Gymru wledig. Rydym wedi gweld effeithiau ‘pocedi’ cudd o dlodi ac amddifadedd mewn llawer o’n cymunedau gwledig. Yn amlach na pheidio, ystyrir tlodi fel problem drefol yn unig a’r duedd yw sicrhau y caiff adnoddau i fynd i’r afael â’r materion hyn eu dosbarthu i ardaloedd trefol, ble mae trwch y boblogaeth yn byw. Mae bellach yn amser i sicrhau nad yw’r tlodion gwledig yn dlodion anghofiedig.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar wyth thema allweddol sydd wedi codi yn ystod yr ymchwiliad, ac rydym wedi gwneud nifer o argymhellion ar bob thema. Er enghraifft, o ran incwm a chyflogaeth, rydym yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried datblygu economi fwy amrywiol mewn ardaloedd gwledig, drwy dargedu adnoddau, gan gynnwys cymorth busnes. O ran trafnidiaeth, hoffem weld y cynllun teithio rhatach ar fysiau yn cael ei ehangu i ganiatáu i bobl hyn gael teithio’n rhatach ar ddulliau trafnidiaeth eraill, megis cludiant cymunedol a threnau, ble nad oes gwasanaeth bws digonol ar gael.

Ac o ran tai, rydym yn argymell bod Canllawiau Cynllunio yn cael eu hatgyfnerthu i alluogi datblygu mwy o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig a chaniatáu i awdurdodau gwledig ryddhau mwy o dir at y diben hwn.”

Nodiadau i olygyddion

Aelodau’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig

Alun Davies AC, Cadeirydd (Llafur, Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mike German AC (Democratiaid Rhyddfrydol, Dwyrain De Cymru) yn dirprwyo ar ran Mick Bates AC (Democratiaid Rhyddfrydol, Sir Drefaldwyn)

Alun Ffred Jones AC (Plaid Cymru, Arfon)

Brynle Williams AC (Ceidwadwyr, Gogledd Cymru)

Bydd tri o’r pedwar aelod o’r pwyllgor yn bresennol yn y lansiad, a fydd yn cynnwys sesiwn holi ac ateb. Mae croeso i chi anfon gohebydd a/neu ffotograffydd i’r digwyddiad. Cysylltwch ag Iwan Williams ar 07976 412546 neu iwan.williams@wales.gsi.gov.uk i drefnu hyn.

Rhagor o wybodaeth am y pwyllgor a’r ymchwiliad