Adroddiad archwilio’n nodi gwelliant o ran amseroedd aros y GIG ond yn dweud bod angen gwneud mwy

Cyhoeddwyd 13/12/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad archwilio’n nodi gwelliant o ran amseroedd aros y GIG ond yn dweud bod angen gwneud mwy

Bu cynnydd sylweddol o ran gostwng amseroedd aros hir y GIG yng Nghymru. Fodd bynnag, ceir gormod o amrywiadau rhwng gwahanol ranbarthau o hyd, a cheir amseroedd aros llawer hirach yn y de nag yn y gogledd. Dyma ganfyddiadau adroddiad newydd Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad ar amseroedd aros y GIG a gyhoeddwyd heddiw (ddydd Mercher 13 Rhagfyr). Mae’n dilyn adroddiad beirniadol iawn a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor ym mis Mai 2005 a oedd yn nodi bod amseroedd aros yn rhy hir o lawer. Mae’r Pwyllgor wedi archwilio a yw’r GIG yng Nghymru ar y trywydd iawn o ran parhau i leihau amseroedd aros mewn ffordd cynaliadwy. Daeth yr adroddiad newydd i’r casgliad y bu cynnydd sylweddol o ran lleihau arosiadau hir a mynd i’r afael â’r hyn sy‘n eu hachosi, ond bod angen gwneud mwy.   Y broblem fwyaf sy’n wynebu’r GIG o ran bodloni’r targedau amseroedd aros yw’r cyfnod annerbyniol o hir y mae’n rhaid i rai cleifion aros am wasanaethau diagnostig a therapi, megis therapi lleferydd ac iaith. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai fod gofyn i gymunedau iechyd lleol arddangos sut y byddant yn mynd i’r afael â’r broblem hon yn eu cynlluniau darparu gwasanaethau. Mae nifer y cleifion sy’n canslo eu llawdriniaethau hefyd yn parhau i fod yn achos pryder. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru gynnal dadansoddiad cynhwysfawr i weld pam fod rhai cleifion yn canslo eu llawdriniaethau. Yna dylai’r Llywodraeth gymryd camau i atal hyn rhag digwydd.     Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Ym mis Medi 2005 gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion ynghylch lleihau’r amseroedd aros annerbyniol o hir yn y GIG. Rydym yn falch o’r gwelliant a wnaethpwyd yn y maes hwn, yn enwedig y ffaith bod amseroedd aros dros 12 mis ar gyfer triniaeth wedi'i chynllunio wedi’u dileu i bob pwrpas. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i gael gwared ar yr amrywiadau rhanbarthol mewn amseroedd aros a’r cyfnod hir iawn y mae’n rhaid i rai cleifion aros o hyd am ddiagnosis a therapi.”