Adroddiad Archwilwyr yn dweud bod staff y GIG yn wynebu lefelau trais sy’n ‘annerbyniol’

Cyhoeddwyd 22/03/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad Archwilwyr yn dweud bod staff y GIG yn wynebu lefelau trais sy’n ‘annerbyniol’

22 Mawrth 2006

Mae staff y GIG yng Nghymru yn wynebu lefelau trais a gwrthdaro yn eu gwaith sydd yn annerbyniol, yn ôl adroddiad Archwiliad newydd.

Mae Pwyllgor Archwilio y Cynulliad wedi darganfod bod y staff yn cofnodi ar gyfartaledd 22 achos o ymosod geiriol neu gorfforol bob dydd a bod Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru wedi gwario £6.3 miliwn yn 2003-04 ar ganlyniadau’r ymosodiadau hyn ac ar atal mwy ohonynt rhag digwydd drwy hyfforddiant a diogelwch. Dywed adroddiad y Pwyllgor a gyhoeddir heddiw (Dydd Mercher, Mawrth 22), Gwarchod Staff y GIG rhag Trais ac Ymosodiadau,), fod Ymddiriedolaethau’r GIG yn cyflawni’u dyletswyddau cyfreithiol ac yn dilyn canllawiau arferion da i ddiogelu’u staff ond bod angen  cymorth ychwanegol mewn meysydd neilltuol. Mae’r Cynllun Pasport, Cynllun Gwybodaeth a Phasport Hyfforddi rhag Trais ac Ymddygiad Ymosodol yn y GIG drwy Gymru gyfan, a lansiwyd yn 2004 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, i ddarparu canllawiau i staff y GIG ynghylch datblygu polisïau ar wahanol ffyrdd o ddiogelu’r staff rhag trais, wedi arwain at agwedd Cymru-gyfan a gwelliannau ym maes rheoli perfformiad. Mae bylchau o hyd, fodd bynnag, yn yr wybodaeth a gasglwyd ynghylch natur ac achos y digwyddiadau, ac nid yw pob aelod o’r staff bob amser yn fodlon cofnodi pob un digwyddiad ymosodol neu fygythiol. Mae’r adroddiad yn argymell nifer o bethau gan gynnwys gwella’r dulliau o gasglu’r wybodaeth ac asesiadau risg ynghylch yr effaith a geir ar iechyd meddwl y claf pan fydd oedi wrth ei drosglwyddo, sefyllfa sydd o bosibl yn magu agwedd ymosodol. Mae’r adroddiad hefyd yn argymell bod Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi canllawiau i ymddiriedolaethau’r GIG ynghylch cynyddu’r nifer o erlyniadau, cydweithio â’r heddlu, a hawliau dynol cleifion a diogelu data. Dylai Llywodraeth y Cynulliad fonitro effaith y canllawiau hyn ar les y staff ac ar waith yr ymddiriedolaethau wrth ddatblygu systemau rheoli effeithiol. Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio,  “Mae trais ac ymddygiad ymosodol yn cael effaith niweidiol, ddifrifol ar fywyd a gyrfa’r unigolion hynny ar y staff sydd yn dioddef yn sgil y digwyddiadau hyn. Maent hefyd yn costio miliynau o bunnoedd i’r gwasanaeth iechyd ac yn mennu ar allu Ymddiriedolaethau’r GIG i ofalu am y cleifion. Mae’r dulliau o ymdrin â hyn wedi gwella, ac mae hi’n hollbwysig sicrhau bod y cynnydd yn parhau.”