Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg [Yn agor ffenestr newydd] y Cynulliad Cenedlaethol wedi cyhoeddi adroddiad cyn y broses ddeddfu ar Fil Llywodraeth Cymru i sefydlu Cymwysterau Cymru.
Prif argymhelliad y Pwyllgor yw y dylid cyfyngu'r Bil i sefydlu Cymwysterau Cymru yn gorff rheoleiddio yn unig. Dylid cyflwyno newidiadau yn y dyfodol i’w gylch gwaith, gan gynnwys ei rôl fel corff dyfarnu, mewn Bil diweddarach, ar ôl ystyried y materion a nodwyd mewn adolygiadau perthnasol yn llawn, ac unwaith y mae’r broses ddyfarnu’n ddigon eglur.
Mae 14 argymhelliad arall yn yr adroddiad.