Adroddiad pwyllgor ar waith CAFCASS Cymru yn galw am fwy o adnoddau a chysondeb ac am ddull sy’n canolbwyntio fwy ar y plentyn
Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol yr ymchwiliad i waith y Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru (CAFCASS Cymru). Mae’r gwasanaeth yn edrych ar ôl buddiannau plant sy’n rhan o achosion llys teuluol yng Nghymru.
Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud ers datganoli’r gwasanaeth i Lywodraeth Cymru yn 2005, ond dywed fod angen i’r cynnydd hwn barhau “gyda mwy o frys”.
Roedd y Pwyllgor yn pryderu nad yw profiad plant yng Nghymru o achosion llys teuluol mor bositif ag y dylai fod, ac nad yw’r plentyn yn ddigon canolog. Nid yw dymuniadau a theimladau plant bob tro’n cael eu hadnabod a’u cyfleu’n ddigonol mewn achosion llys.
Priodolodd y Pwyllgor y diffyg hwn i’r tensiwn sy’n bodoli rhwng yr amgylchedd sy’n seiliedig ar ‘les’ y mae gofyn i CAFCASS weithio oddi mewn iddo a’r dull a fabwysiadwyd yng Nghymru sy’n seiliedig fwy ar ‘hawliau’. Mae’r Pwyllgor yn argymell bod angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â hyn.
“Rydym am dalu teyrnged i ymarferwyr CAFCASS Cymru sy’n gweithio’n galed a phroffesiynol i helpu i ddatrys rhai o’r achosion mwyaf anodd ac anhydrin sy’n ymddangos o flaen y llysoedd teulu,” meddai Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor.
“Fodd bynnag, fel mater o frys, credwn fod angen i CAFCASS Cymru wneud cynnydd pellach sylweddol. Mae’r adroddiad hwn yn amlygu rhai meysydd allweddol y gellir eu gwella, a fydd yn galluogi CAFCASS Cymru i gyflawni ei ddyletswydd allweddol, sef gwarchod a hybu lles plant yng Nghymru”.