Adroddiad Pwyllgor y Cynulliad – Cymorth i Bobl â Dyslecsia yng Nghymru
Heddiw, (ddydd Mercher 16 Gorffennaf 2008), cyhoeddodd Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad gydag argymhellion pellgyrhaeddol ynglyn â’r ffordd orau o roi cymorth i bobl â dyslecsia yng Nghymru.
Mae’r adroddiad yn nodi nad oes diffiniad safonol ar gyfer dyslecsia y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru nac unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru gytuno arno. Fel canlyniad, nid oes cysondeb ledled Cymru o ran sgrinio, asesu a darparu gwasanaethau ar gyfer dyslecsia a gaiff eu hariannu gan awdurdodau lleol.
Yn ogystal, mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’r sefydliadau unigol yn ailasesu cynnwys cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon er mwyn gwella dealltwriaeth athrawon dan hyfforddiant o anghenion dysgu ychwanegol yn sylweddol.
Mae Pwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru hefyd wedi cyhoeddi crynodeb o’r adroddiad, sydd wedi’i anelu’n arbennig at bobl â dyslecsia.
Darllen yr adorddiad
Nodiadau i Olygyddion:
Aelodau Pwyllgor Menter a Dysgu:
Cadeirydd: Gareth Jones, AC Aberconwy
Christine Chapman, AC Cwm Cynon;
Jeff Cuthbert, AC Caerffili;
Andrew R T Davies, AC Canol De Cymru;
Huw Lewis, AC Merthyr Tudful a Rhymni;
David Melding, AC Canol De Cymru;
Sandy Mewies, AC Delyn;
Janet Ryder, AC Gogledd Cymru;
Kirsty Williams, AC Brycheiniog a Sir Faesyfed;
Grwp Rapporteur
Ym mis Gorffennaf 2007, etholodd y Pwyllgor Grwp Rapporteur (nifer o gynrychiolwyr o’r Pwyllgor Menter a Dysgu) i ymgymryd ag ymchwiliad i’r cymorth sydd ar gael i bobl â dyslecsia yng Nghymru. Etholwyd pedwar i wneud y gwaith, sef:
Alun Cairns
Jeff Cuthbert
Janet Ryder
Kirsty Williams
Roedd cylch gwaith y Grwp fel a ganlyn:
“Ystyried dulliau traddodiadol, arloesol a newydd o drin dyslecsia a chyflwyno adroddiad ac argymhellion gerbron y Pwyllgor Menter a Dysgu erbyn diwedd tymor yr hydref 2007
.”
Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad dros dro ar 12 Rhagfyr 2007. Gosodwyd yr adroddiad gerbron y Cynulliad a’r argymhelliad oedd bod y grwp yn parhau â’i waith ac yn cyhoeddi adroddiad terfynol pan fydd yn briodol.
Beth yw dyslecsia?
Mae pobl sydd â dyslecsia yn ei chael yn anodd i ddarllen, ysgrifennu a sillafu geiriau, ac yn aml yn ysgrifennu llythrennau yn y drefn anghywir wrth sillafu, ac yn ei chael yn anodd i roi geiriau yn y drefn gywir.
Mae’n gyflwr parhaol, ac nid yw’n gysylltiedig â lefelau deallusrwydd.
Er nad oes unrhyw ystadegau swyddogol, amcangyfrifir bod un o bob deg person â dyslecsia.
Ar hyn o bryd, nid oes diffiniad safonol ac wedi’i gytuno o ddyslecsia