Adroddiad Pwyllgor yn cymell bod pwerau i ddeddfu dros fynediad i ddŵr mewndirol yn cael eu datganoli

Cyhoeddwyd 16/06/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Adroddiad Pwyllgor yn cymell bod pwerau i ddeddfu dros fynediad i ddwr mewndirol yn cael eu datganoli

16 Mehefin 2010

Dylai Cynulliad Cymru gael y pwer i gyflwyno deddfau sy’n effeithio ar fynediad i’n afonydd a’n llynnoedd, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau ymchwiliad a barodd am flwyddyn i fynediad i ddwr mewndirol, a’r casgliad oedd bod angen creu awdurdod i helpu i sefydlu, annog a goruchwylio cytundebau gwirfoddol rhwng defnyddwyr a pherchnogion.

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar gyrff a ariennir gan arian cyhoeddus ac elusennau, fel y Parciau Cenedlaethol, i achub y blaen ar sefydlu cynllun o’r fath i bennu meincnod i’w ddilyn gan dirfeddianwyr preifat.

“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r baich o lunio cytundebau ar fynediad a’r hawl i ddefnyddio ar ysgwyddau pawb sy’n gysylltiedig â’r mater,” meddai Mike German AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cynaliadwyedd.

“Fodd bynnag, wrth sefydlu awdurdod arweiniol i oruchwylio’r cytundebau hyn, rhaid i ni ddatganoli’r pwerau angenrheidiol i greu’r awdurdod hwn.

“Mae’r ymchwiliad hwn wedi bod yn un cymhleth iawn, ac mae’r pwyllgor wedi ystyried bron i 500 o ymatebion unigol gan y cyhoedd, mwy nag ar gyfer unrhyw ymchwiliad arall yn ei hanes,”

“Mae cael cydbwysedd rhwng y rhai sy’n berchen ar ddwr mewndirol a’r rhai sy’n ei ddefnyddio, boed yn bobl sy’n mwynhau pysgota neu chwaraeon dwr, wedi bod yn anodd iawn.


“Fodd bynnag, wrth argymell ceisio sefydlu cytundebau gwirfoddol gyda chymorth awdurdod i’w monitro, cred fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor a minnau ein bod wedi cael cydbwysedd da. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion ar gamau pellach i’w cymryd pan na fydd cytundebau gwirfoddol yn bosibl.”

Dechreuodd yr ymchwiliad ar ôl i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cymru dderbyn deiseb yn galw am fynediad agored ac am ddim i ddwr mewndirol yng Nghymru.

Nid yw’r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cefnogi’r dull hwnnw o weithredu, ond mae’n gwneud 13 argymhelliad i wella mynediad a pharch yn ôl gofynion defnyddwyr a pherchnogion.

- Cyflwyno deddfwriaeth i ddynodi awdurdod arweiniol a fydd â’r cyfrifoldeb o gynorthwyo’r holl bartïon i gyrraedd cytundebau gwirfoddol.

- Drafftio cod ymddygiad cenedlaethol ar gyfer defnyddio dwr ac yn ymgynghori arno, i’w ddefnyddio yn yr ardaloedd hynny lle caniateir mynediad.

- Cyflwyno system drwyddedu ar gyfer y rheini sy’n defnyddio cychod heb fotor ar ddwr mewndirol.

- sefydlu gwefan genedlaethol yn cynnwys manylion am yr holl ddarnau o ddwr yng Nghymru lle cytunwyd ar fynediad, a’r amodau sy’n gysylltiedig â’r cytundebau hynny.