Adroddiad pwyllgor yn galw am well hyfforddiant a chyfathrebu mewn ymgais i wella safonau ar gyfer llywodraethwyr ysgolion
Mae adroddiad gan grwp
aml-bleidiol o Aelodau’r Cynulliad ynghylch swyddogaeth llywodraethwyr yn ysgolion Cymru wedi nodi amryw o bryderon ac yn cynnig nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Mae argymhellion y Pwyllgor Menter a Dysgu, a gynhaliodd yr ymchwiliad, yn cynnwys galw am well hyfforddiant a chyfathrebu.
Cytunodd y Pwyllgor y gall corff llywodraethu effeithiol roi cyfeiriad i ysgolion ac, ym mwyafrif llethol o ysgolion yng Nghymru, y mae’n gytûn bod llywodraethwyr ysgolion yn effeithiol ac effeithlon.
Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor yn credu bod angen gwella cyfathrebu â llywodraethwyr er mwyn sicrhau bod pob un o 23,000 o lywodraethwyr Cymru yn
gwbl ymwybodol o’u rolau a’u cyfrifoldebau.
“Mae’r adroddiad yn canfod, bod llywodraethwyr ysgolion yn y mwyafrif llethol o achosion, yn cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Yr her yn awr yw mynd i’r afael â’r lleiafrif o ysgolion nad ydynt,” meddai Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Dysgu.
“Gwir brawf effeithiolrwydd llywodraethwyr ysgolion fydd gweld gwelliannau tymor hir ym mherfformiad disgyblion dros Gymru gyfan, ac rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru graffu ar y berthynas honno er mwyn sicrhau cysylltiad cryf rhwng llywodraethu da a chyrhaeddiad addysgol.”
Awgrymodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno rhaglen hyfforddiant i lywodraethwyr ar y cyd â phartneriaid posibl.
Mae’r Pwyllgor hefyd yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru’n parhau a’i chynlluniau i brofi system ‘marc ansawdd’ a fydd yn galluogi llywodraethwyr i edrych ar eu cryfderau a’u gwendidau a dod o hyd i feysydd y gellir eu gwella.
Mae pwysigrwydd hyfforddi penaethiaid i weithio gyda llywodraethwyr hefyd yn cael ei amlygu, a chynigiodd y Pwyllgor y dylid cynnwys yr hyfforddiant hwn i benaethiaid o fewn y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP).
Mae argymhellion eraill y Pwyllgor yn cynnwys:
Yr amrywiaeth yn lefel y gefnogaeth sydd ar gael i lywodraethwyr ar draws Cymru.
Lefelau presennol y swyddi gwag a’r rhesymau dros hyn.
Swyddogaeth Llywodraethwyr Ysgolion