Adroddiad y Pwyllgor Archwilio ar ddysgu seiliedig ar waith yng Nghymru

Cyhoeddwyd 01/11/2006   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Adroddiad y Pwyllgor Archwilio ar ddysgu seiliedig ar waith yng Nghymru

Heddiw, (Dydd Mercher 1 Tachwedd) cyhoeddir adroddiad newydd gan y Pwyllgor Archwilio ar y Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith a gyflwynwyd gan Elwa ac sy’n cael ei rhedeg bellach gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith yn ariannu darparwyr hyfforddiant yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat fel ei gilydd ledled Cymru. £84 miliwn oedd cost ariannu Dysgu Seiliedig ar Waith yn 2004-05. Roedd y Pwyllgor Archwilio’n ceisio darganfod a yw’r newidiadau a gyflwynwyd yn 2004 wedi golygu gwelliant yn y Rhaglen. Dyma gasgliad yr adroddiad :
  • Mae cronfa ddata newydd i weinyddu’r dysgwyr wedi dod â gwelliannau pwysig i reolaeth gyffredinol y rhaglen, ond cafwyd problemau wrth ei gweithredu a dylid dysgu oddi wrth hynny;
  • Mae safon rheoli’r darparwyr hyfforddiant ar hyn o bryd yn dal i beryglu arian cyhoeddus mewn modd sy’n annerbyniol; a
  • Bydd rhaid i gaffael a rheoli contractau â darparwyr hyfforddiant yn y dyfodol sicrhau bod arian cyhoeddus ar y naill law ac ansawdd yr hyfforddi ar y llall yn cael eu diogelu’n well.
Mae’r adroddiad yn gwneud naw argymhelliad, gan gynnwys gwell rheolaeth archwilio ac asesu, gwell hyfforddiant ar gyfer darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith sydd yn derbyn arian cyhoeddus a threfniadau contract cadarnach. Dywedodd Janet Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio: “Mae Dysgu Seiliedig ar Waith ôl -16 yn weithgarwch pwysig i bobl ac economi Cymru, ac yn ein barn ni, mae hi’n hanfodol fod y symiau sylweddol o arian cyhoeddus a ddarperir ar ei gyfer yn cael eu gwario’n bwrpasol i’r perwyl a nodwyd ac yn sicrhau’r canlyniadau a fwriadwyd. Mae’r trefniadau newydd ar gyfer dysgu seiliedig ar waith sy’n gweithredu er 2004 wedi gwella’r sefyllfa, ond gellid gwneud mwy eto.”