Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol wedi’i phenodi i Lwyfan Monitro Ewrop 2020

Cyhoeddwyd 20/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol wedi’i phenodi i Lwyfan Monitro Ewrop 2020

20 Hydref 2010

Mae Christine Chapman AC, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi’i phenodi i rôl newydd fel un o ddau o Gydgysylltwyr Gwleidyddol ar gyfer rhwydwaith awdurdodau lleol a rhanbarthol Pwyllgor y Rhanbarthau a elwir Llwyfan Monitro Ewrop 2020.

Mae Mrs Chapman wedi bod yn gynrychiolydd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Bwyllgor y Rhanbarthau - y cynulliad gwleidyddiol sy’n rhoi llais i awdurdodau lleol a rhanbarthol wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd – ers 2008.

Mae gan Lwyfan Monitro Ewrop 2020 dros 140 o aelodau a’i fwriad yw monitro gweithrediad strategaeth economaidd ddeng mlynedd newydd yr UE (“Ewrop 2020”) ar lawr gwlad – yn cynnwys cyfnewid arferion gorau ac amlygu unrhyw anawsterau a wynebir o bosibl gan awdurdodau lleol a rhanbarthol o ran perthynas â llywodraethau gwladol.

Y Cydgysylltydd Gwleidyddol arall yw’r Llywydd Vendola o Ranbarth Pulgia yn yr Eidal.

Dywedodd Mrs Chapman: “’Rwy’n falch o gael fy mhenodi i’r rôl newydd hon fel Cydgysylltydd Gwleidyddol Llwyfan Monitro Ewrop 2020, gyda’r Llywydd Vendola o Ranbarth Puglia yn yr Eidal.

“Mae’r llwyfan yn uno dros 140 o awdurdodau lleol a rhanbarthol drwy Ewrop ac mae’n gyfle i gyfnewid arferion gorau o ran gweithredoedd sy’n gweithio yn ymarferol, ac i ysgogi twf economaidd a mynd i’r afael â’r heriau sy’n dod i’n rhan fel newid yn yr hinsawdd a dysgu i fyw yn fwy cynaliadwy.

“Rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn defnyddio’r llwyfan hwn er budd i Gymru, fel dull o amlygu’r hyn a wnawn yn dda ac i alluogi inni elwa o brofiadau cadarnhaol rhannau eraill o Ewrop. Pobl gyffredin sy’n newid cymuned ac yn sicrhau bod pethau’n digwydd, a byddaf fi’n anelu at sicrhau y bydd y gwaith ar lawr gwlad yn cael ei weld ym Mrwsel drwy’r rhwydwaith hwn.”