Aelod o’r Cynulliad yn cael y cyfle i gynnig deddfau newydd
Cynhaliwyd dau falot ar gyfer Aelodau’r Cynulliad nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth i ddeddfu dros Gymru o dan bwerau newydd y Cynulliad heddiw (Dydd Mercher Ebrill 16). Cynhaliwyd un balot i ddewis aelod i gyflwyno Mesur y Cynulliad, ac un arall i ddewis aelod i geisio cael pwerau ychwanegol i’r Cynulliad trwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol.
Trwy gyd-ddigwyddiad, Peter Black AC a enillodd y ddau falot. Mae ganddo’n awr gyfle i gyflwyno mesur ar wasanaethau ieuenctid, ac i geisio cael Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ynghylch Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru’n rhoi pwer i’r Cynulliad wneud ei ddeddfwriaeth ei hun ar faterion datganoledig fel iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol. Gelwir y rhain yn Fesurau’r Cynulliad.
Cyn gwneud Mesurau mewn perthynas â maes penodol o lywodraeth ddatganoledig, bydd angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ‘cymhwysedd deddfwriaethol,’yr awdurdod cyfreithiol i basio Mesurau, gan Senedd y DU.
Gellir caniatáu cymhwysedd deddfwriaethol naill ai mewn Deddfau Seneddol neu drwy ddefnyddio’r llwybr newydd o “Orchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol” (LCO), ac unwaith y caiff y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol ar destun gan Senedd y DU, gall ddechrau ar y broses o basio Mesurau’r Cynulliad.