Cyhoeddwyd 19/11/2007
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014
Aelodau Cynulliad sydd yn astudio dulliau o drin dyslecsia am gael clywed gan blant a’u rhieni
Mae grwp o Aelodau’r Cynulliad a sefydlwyd i ystyried agweddau ar drin dyslecsia yng Nghymru yn gofyn am farn plant sydd â’r cyflwr a’u rhieni.
Sefydlwyd y Grwp Rapporteur trawsbleidiol ar Ddyslecsia (Alun Cairns, Jeff Cuthbert, Janet Ryder a Kirsty Williams) gan Bwyllgor Menter a Dysgu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r grwp wedi bod ar gyfres o ymweliadau ymchwiliol ac wedi gwrando ar dystiolaeth gan academyddion, sefydliadau a chyrff blaenllaw.
Mae’r aelodau wedi astudio’r dulliau traddodiadol o ymdrin â dyslecsia gan edrych hefyd ar ffyrdd mwy arloesol megis dull Dore – testun rhaglen ddogfen ar y teledu am y seren rygbi Scott Quinnell – a dull Raviv method, yn ogystal â phecynnau TG megis Fast ForWord. Maent wedi gwrando ar dystiolaeth gan sefydliadau sy’n cynnwys British Dyslexia Association Cymru, Prosiect Dyslecsia Cymru a Dyslexia Action Cymru ac wedi edrych ar syniadau arloesol eraill fel achredu ysgolion sy’n ystyriol o ddyslecsia a rhagnodi sbectol arlliwedig a lensiau lliw.
Bellach maent am siarad â rhieni a phlant sydd wedi profi’r anawsterau sy’n codi wrth orfod byw gyda dyslecsia, yn enwedig:
- eu profiadau yn sgil gwahanol ffyrdd o drin y cyflwr
- y gefnogaeth a ddarperir gan yr ysgolion
- y gwasanaeth a geir gan seicolegwyr addysgol
- y ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer plant sydd â dyslecsia.
Dywedodd Alun Cairns AC: “Mae bod yn rhan o’r Grwp Rapporteur ar Ddyslecsia wedi bod yn brofiad hynod ddiddorol ac ‘rydym wedi dysgu cryn dipyn am y gwahanol ddulliau arloesol o fynd i’r afael â’r cyflwr. Mae hi’n bwysig, fodd bynnag, ein bod ni’n gwrando nid yn unig ar yr ymarferwyr a’r sefydliadau ond ar yr arbenigwyr go iawn – sef y plant a’u rhieni – ynglyn â’u profiadau. ‘Rwy’n annog unrhyw un sydd â phlentyn dyslecsig yn y teulu i gysylltu â’r grwp. Bydd hyn o gymorth inni wrth lunio’n hargymhellion terfynol ynglyn â thrin dyslecsia.”
Dylai unrhyw un sydd am gyfleu’i syniadau i’r grwp ysgrifennu at Kathryn Jenkins, Gwasanaeth y Pwyllgorau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd CF99 1NA neu anfon e-bost at:
Kathryn.jenkins2@wales.gsi.gov.uk