Aelodau’r Cynulliad i drafod y posibilrwydd o ostwng yr oed pleidleisio i 16

Cyhoeddwyd 27/06/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Aelodau’r Cynulliad i drafod y posibilrwydd o ostwng yr oed pleidleisio i 16

27 Mehefin 2012

Bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod y posibilrwydd o ostwng yr oed pleidleisio i 16 yn ystod y ddadl gan Aelodau unigol ddiweddaraf a gaiff ei chynnal yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mercher 4 Gorffennaf.

Mae’r cynnig, a gyflwynwyd gan Julie Morgan AC, Aled Roberts AC, Bethan Jenkins AC a Paul Davies AC, yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ‘yn cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ym mhob etholiad a refferendwm a gynhelir yng Nghymru.’

Dywedodd Julie Morgan, Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd: “Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i roi llwyfan i’r ddadl yng Nghymru ar ostwng yr oed pleidleisio i 16.

“Mae’n bwysig i ddemocratiaeth bod pob rhan o gymdeithas yn cael llais ac yn cael ei chynrychioli’n llawn.

“Rwy’n credu’n gryf y byddai gostwng yr oed pleidleisio yn helpu i ymgysylltu pobl ifanc â’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Dylai, hefyd, fod yn sail ar gyfer cymryd rhan mewn etholiadau pan fyddant yn hyn.”

Cyflwynwyd y cynnig gyda chefnogaeth trawsbleidiol a chafodd ei ddethol ar gyfer dadl gan y Pwyllgor Busnes. Mae’r ddadl gan Aelodau unigol yn gyfle i’r Aelodau godi materion pwysig sy’n berthnasol i’w hetholwyr a thynnu sylw’r Cynulliad Cenedlaethol atynt. Dyma’r chweched dadl o’i bath ers cyflwyno hyn yn ystod hydref 2011.