Aelodau’r Cynulliad i ymweld â Chanolfan Adsefydlu Alcohol

Cyhoeddwyd 30/01/2008   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad i ymweld â Chanolfan Adsefydlu Alcohol

Bydd grwp o Aelodau Cynulliad sy’n cynrychioli Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad Cenedlaethol yn ymweld â Chanolfan Adsefydlu Alcohol Ty Brynawel yn Llanharan ddydd Mercher 30 Ionawr.    

Bydd Cadeirydd y Pwyllgor a’r Aelod Cynulliad lleol Janice Gregory yn ymweld â’r ganolfan gyda’i chyd-Aelodau Nerys Evans, Lesley Griffiths a Joyce Watson. Caiff y grwp fynd o amgylch y ganolfan a sgwrsio â’r staff a’r cleientiaid am y gwasanaethau sydd ar gael.                    

Dywedodd Mrs Gregory: “Rwy’n edrych ymlaen at fynd ag aelodau eraill y Pwyllgor i Dy Brynawel ac at siarad â’r staff a’r cleientiaid yno.  Rwy’n gobeithio y bydd yr ymweliad yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o anghenion y rhai hynny sy’n gwella o ddibyniaeth ar alcohol a sut mae’r driniaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn bodloni’r gofynion hynny.  Rwy’n siwr y bydd siarad â defnyddwyr y gwasanaeth a’r darparwyr yn ddefnyddiol iawn. Byddwn wedyn yn rhoi adroddiad ar ein canfyddiadau i aelodau eraill y pwyllgor.”