Aelodau’r Cynulliad yn cymeradwyo cyfraith newydd i osod gwregysau diogelwch ar fysiau ysgol

Cyhoeddwyd 16/12/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Aelodau’r Cynulliad yn cymeradwyo cyfraith newydd i osod gwregysau diogelwch ar fysiau ysgol

18 Rhagfyr 2010

Mae pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad wedi cytuno, mewn egwyddor, ar ddeddf arfaethedig i Gymru a fydd yn gorfodi awdurdodau lleol neu gyrff llywodraethu i sicrhau bod gwregysau diogelwch ar gael ar gludiant i ysgolion.

Fodd bynnag, mae’r Pwyllgor wedi argymell bod y Mesur arfaethedig yn cael ei ddiwygio er mwyn sicrhau ei fod yn gymwys i gludiant ysgol a ddarperir yn ystod y dydd, ac nid i deithiau rhwng y cartref a’r ysgol yn unig.

Bydd y Mesur arfaethedig ynghylch Diogelwch ar Gludiant i Ddysgwyr (Cymru) yn cyflwyno nifer o reoliadau diogelwch gorfodol ar gyfer cludiant i ysgolion, gan gynnwys rheoliadau ar y defnydd o wregysau diogelwch priodol a chamerâu cylch cyfyng.

O dan y Mesur, bydd staff hyfforddedig yn goruchwylio rhai mathau o gludiant i ddysgwyr, bydd hyfforddiant gorfodol i yrwyr yn cael ei ddatblygu, a bydd y defnydd o gerbydau nad ydynt yn bodloni safonau diogelwch llym yn cael ei ddileu’n raddol.

Bydd gan Weinidogion Cymru hefyd y pwer i sefydlu corff gorfodi a’i gwneud yn drosedd i ddarparwyr cludiant dorri’r rheoliadau diogelwch.

Dywedodd Jenny Randerson AC, Cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 4: “Mae diogelwch ar gludiant i ysgolion yn fater sy’n effeithio ar bobl ifanc a rhieni ledled Cymru, felly mae’r Pwyllgor yn gweld y Mesur arfaethedig fel darn o ddeddfwriaeth a allai fod yn arwyddocaol.

“Bydd gweithredu gofynion penodol i wella diogelwch ar gerbydau sy’n cludo’n pobl ifanc i’r ysgol yn meithrin hyder rhieni a’r cyhoedd, a bydd yn sicrhau bod safonau diogelwch uchel yn gyffredin yng Nghymru.”

Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan nifer o sefydliadau ac unigolion i lywio’r gwaith o graffu ar y Mesur, gan gynnwys Belt Up School Kids (BUSK), Comisiynydd Plant Cymru ac awdurdodau lleol.

Er bod yr Aelodau’n cefnogi amcanion y Mesur arfaethedig, mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys nifer o argymhellion i gynorthwyo’i ddatblygiad.

Bydd y Mesur nawr yn cael ei drafod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y Cyfarfod Llawn. Os bydd y Cynulliad yn cytuno arno, bydd yn symud i’r cyfnod nesaf yn y broses.