Aelodau’r Cynulliad yn trafod canfyddiadau ymchwiliad i’r economi werdd

Cyhoeddwyd 13/10/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024

Aelodau’r Cynulliad yn trafod canfyddiadau ymchwiliad i’r economi werdd

13 Hydref 2010

Heddiw (13 Hydref), bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod canfyddiadau ymchwiliad a sefydlwyd i ystyried y cyfleoedd i greu swyddi yn yr economi werdd.

Galwodd y Pwyllgor Menter a Dysgu ar i’r economi werdd fod yn elfen ganolog o bolisïau Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r economi, yn hytrach na bod ar yr ymylon.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod sectorau fel ailwampio cartrefi i fod yn effeithlon o ran ynni, ynni adnewyddadwy morol a chaffael yn cynnig cyfleoedd sylweddol i greu swyddi, ond bod heriau i’w goresgyn.

Dywedodd Gareth Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Dangosodd y dystiolaeth a glywsom bod potensial i greu swyddi yn yr economi werdd, ond bod angen i Lywodraeth Cymru greu’r amodau cywir i hyn allu digwydd, fel ysgogi’r marchnadoedd ar gyfer busnesau a thechnolegau gwyrdd yn y byr dymor, darparu amgylchedd iach er mwyn i’r marchnadoedd hyn dyfu yn yr hir dymor a buddsoddi yn y sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer dyfodol carbon-isel.

Rwyf yn falch bod y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi derbyn mwyafrif yr argymhellion yn ein hymchwiliad. Fodd bynnag, nawr yw’r amser i weld mwy o weithredu a llai o strategaethau gan y Llywodraeth. Edrychaf ymlaen, felly, i weld Llywodraeth Cymru yn cymryd camau rhesymegol a blaengar ar y mater hwn o heddiw ymlaen, fel sydd eisoes yn digwydd yn yr Alban.”