Ailstrwythuro’r GIG yn rhoi cyfle i gryfhau dulliau cyfrifyddu’r gwasanaeth iechyd.
Mae Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau mai cyllid y GIG fydd canolbwynt ei chynlluniau ad-drefnu.
Dywed y Pwyllgor y bydd yr ad-drefnu sydd ar ddod yn gyfle gwych i wella’r system rheoli ariannol ymhellach er bod sefyllfa ariannol y GIG yng Nghymru wedi gwella dros y flwyddyn ddiwethaf.
Y prif argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Archwilio ar system rheoli ariannol y GIG yw bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn:
Sicrhau bod holl reolwyr ariannol y GIG wedi dilyn rhaglen hyfforddi newydd y fframwaith cymhwysedd ariannol
Sicrhau bod yr holl gynlluniau moderneiddio gwasanaethau yn cynnwys amcangyfrifon realistig o gostau gwasanaethau presennol yn ogystal â’r costau sydd i ddod yn sgil datblygiadau newydd
Sicrhau y gall uwch apwyntiadau i’r cyrff GIG newydd wella arweinyddiaeth ariannol
Cydnabod y gall adfer rhai cyrff GIG yn ariannol gymryd mwy na blwyddyn i leihau’r effaith ar gleifion.
Dywedodd David Melding AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae system rheoli ariannol y GIG yng Nghymru wedi gwella o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond cyflawnwyd rhan o hyn drwy symud rhai symiau sylweddol o arian ar ddiwedd y flwyddyn a broceriaeth rhwng cyrff GIG lleol.
“Mae llawer o waith i’w wneud eto. Teimla’r Pwyllgor y bydd y gwaith o ad-drefnu’r GIG sydd ar ddod yn gyfle gwych i wella’r system rheoli ariannol trwy ddefnyddio’r capasiti sydd eisies yn bodoli yn fwy effeithiol a sicrhau bod gan y sefydliad newydd arweinyddiaeth ariannol o’r ansawdd gorau posibl.”