Amser i newid yng Nghymru - Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol yn llofnodi addewid i leihau stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl

Cyhoeddwyd 10/10/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/10/2016

​Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi llofnodi addewid i leihau stigma yn y gweithle sy’n gysylltiedig â materion iechyd meddwl.

Llofnodwyd yr addewid, Amser i Newid Cymru, gan Joyce Watson AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros gydraddoldeb a staff y Comisiwn, a Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10 Hydref).

Nod yr ymgyrch Amser i Newid Cymru, a drefnir gan yr elusennau Gofal, Hafal a Mind Cymru yw annog sefydliadau i ymrwymo i fynd i’r afael â stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl.

Dywed yr addewid:

"Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i gefnogi a diogelu lles meddyliol ei weithwyr, ac mae’n sylweddoli bod iechyd meddwl da yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol a lles cymdeithasol unigolion, ynghyd ag i gynhyrchiant. Ceisia’r Comisiwn gefnogi gweithwyr i gyflawni a chynnal cyflwr cadarnhaol o ran iechyd meddwl a lles. Mae cefnogi’r addewid Amser i Newid Cymru’n cadarnhau ymrwymiad y Comisiwn i gefnogi gweithwyr o ran lleihau stigma yn y gweithle a ledled Cymru."

Mae llofnodi’r addewid yn nodi cychwyn wythnos o weithdai a sesiynau ar gyfer staff y Cynulliad sy’n anelu at godi ymwybyddiaeth o’r mater, ac yn cynnig cyngor ac atebion.

Dywedodd Joyce Watson: "I lawer, mae stigma sy’n gysylltiedig â iechyd meddwl yn para o hyd, ac yn enwedig yn y gweithle."

"Mae unrhyw anhwylder iechyd meddwl yn salwch fel unrhyw salwch arall, ac mae unrhyw gyflogwr gwerth ei halen yn cefnogi staff pan fyddant yn sâl.

"Rydym yn disgwyl llawer iawn gan y bobl sy’n gweithio i’r Cynulliad, felly mae’n iawn ein bod yn cynnig cefnogaeth iddynt mewn cyfnod o salwch, a dylai hynny gynnwys materion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

"Rwy’n falch i lofnodi’r addewid hwn ar ran Comisiwn y Cynulliad - mae’n bwysig bod senedd Cymru yn dangos arweinyddiaeth ar faterion fel hyn," ychwanegodd.

Dywedodd Ryan Jones, Rheolwr Rhaglen Amser i Newid yng Nghymru: "Rydym yn falch iawn fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl yn ei weithleoedd.

"Gydag un person ym mhob pedwar yn dioddef problem iechyd meddwl, mae ymrwymiad y Cynulliad i les meddyliol ei staff yn amlygu pwysigrwydd darparu’r gefnogaeth gywir, a chreu amgylchedd agored a gonest.

"Mae hyn yn anfon neges glir i gyflogwyr yng Nghymru ei bod yn hanfodol i greu amgylchedd sy’n hyrwyddo lles meddwl da i staff, a’u bod yn sicrhau bod rhagor yn cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, ac i fynd i’r afael â chamsyniadau ac agweddau gwahaniaethol ynghylch iechyd meddwl."