Angen “camau beiddgar” i ddarparu gwasanaethau iechyd yn agosach at adref

Cyhoeddwyd 27/03/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/03/2026   |   Amser darllen munudau

Mae meddygaeth deulu a gofal cychwynnol yng Nghymru wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol, ac mae angen “camau beiddgar” i sicrhau y gellir darparu rhagor o wasanaethau yn agosach at gartrefi pobl – gan leddfu’r pwysau ar ysbytai, a gwella llesiant hirdymor cleifion.

Mae adroddiad newydd gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, a gyhoeddwyd ddydd Gwener 27 Mawrth 2026, yn rhybuddio y bydd y GIG yng Nghymru yn parhau i gael trafferth i ddiwallu'r galw cynyddol os na cheir rhagor o ffocws ar ofal ataliol a gofal cychwynnol.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i symud mwy o wasanaethau o ofal eilaidd i'r gymuned, gan sicrhau bod gan bobl fynediad at ofal cychwynnol ac ataliol cadarn sydd ag adnoddau da, a hynny’n gynharach ac yn fwy cyfleus iddynt.

Mae'n pwysleisio y bydd angen trawsnewidiad a reolir yn ofalus ar gyfer hyn, ac ymrwymiad i ddyblu cyllid am gyfnod o amser.

Dywedodd Peter Fox AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd:

“Mae meddygaeth deulu a gofal cychwynnol yn gonglfaen ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Os ydym am leddfu'r pwysau cynyddol ar draws y system iechyd gyfan, rhaid inni symud tuag at atal a sicrhau y gall pobl gael mynediad at wasanaethau yn agosach at adref.

“Ystyr hynny yw buddsoddi mewn gofal sy’n helpu pobl i aros yn iach a derbyn triniaeth yn gynharach yn eu cymunedau, ond gan wneud hynny mewn ffordd sy’n ddiogel, wedi’i chynllunio, ac wedi’i chefnogi’n briodol.

“Bydd darparu model gwirioneddol gymunedol yn gofyn am gymryd camau beiddgar, a rhaid inni adfer ymddiriedaeth cleifion yn eu gwasanaethau lleol.  Mae'r neges yn glir, ni allwn ddatrys y pwysau gwaith yn ein hysbytai oni bai y byddwn yn cryfhau gwasanaethau meddygfeydd teulu a gofal cychwynnol.”

Dull hirdymor sy'n canolbwyntio ar atal

Oni bai bod y GIG yn rhoi blaenoriaeth i atal, bydd y galw yn parhau i fod yn fwy na'r capasiti. Dywed yr adroddiad bod buddsoddi mewn meddygaeth deulu yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddarparu gofal ataliol, o wella rheolaeth o gyflyrau hirdymor, ac o leihau derbyniadau diangen i'r ysbyty. Fodd bynnag, mae blynyddoedd o danfuddsoddi a gweithlu sy’n lleihau o ran meddygon teulu yn llesteirio cynnydd.

Diwygio fformiwla ariannu meddygon teulu

Nid yw'r fformiwla ariannu a ddefnyddir i ddyrannu cyllid craidd i feddygfeydd teulu, sef y model Carr-Hill, yn adlewyrchu anghenion poblogaeth Cymru mwyach meddir. Mae rhai practisau sy'n gwasanaethu'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn cael llawer llai o gyllid, er gwaethaf lefelau uwch o salwch a rhagor o alw.

Mae'r Pwyllgor yn rhybuddio bod parhau â'r fformiwla bresennol, o bosibl, yn mynd i waethygu anghydraddoldebau a thanseilio cynaliadwyedd gwasanaethau meddygfeydd teulu. Mae'n galw ar Lywodraeth newydd Cymru i ymrwymo i ddiwygio'r fformiwla, ac i gyhoeddi'r amserlen ar gyfer gwneud hynny.

“Sgrialu am 8yb”

Mae'r brys boreol i geisio cael apwyntiad â meddyg yn parhau yn un o'r rhwystredigaethau mwyaf i'r cyhoedd. I bobl hŷn gall hyn atal mynediad at ofal, ac mae pobl ifanc yn gweld bod y system yn anghydnaws â gwaith a chyfrifoldebau gofalu.

Mae diffyg parhad, y mater o amseroedd apwyntiadau byr a galw llethol hefyd yn cyfrannu at y canfyddiad negyddol gan y cyhoedd.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth newydd Cymru i gryfhau safonau mynediad, i leihau dibyniaeth ar gyfleoedd archebu apwyntiadau sy’n gyfyngedig o ran amser, ac i adennill ymddiriedaeth y cyhoedd drwy adfer parhad gofal, a chyfathrebu effeithiol â chleifion.

Tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol

Yn ystod yr ymchwiliad, derbyniodd y Pwyllgor dystiolaeth gan feddygon teulu, nyrsys practis, rheolwyr practis a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, a chan gyrff cynrychioliadol fel Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu (RCGP).

Dywedodd Dr Rowena Christmas MBE, Cadeirydd RCGP Cymru: “Mae’r ymchwiliad hwn wedi bod yn gyfle gwerthfawr i ystyried profiadau pobl o’r gwasanaeth meddygaeth deulu a pha gamau ymarferol y gall y llywodraeth eu cymryd i gefnogi meddygon i ddarparu gofal parhaol ystyrlon sy’n gweithio i’n cleifion. Mae’n gwneud synnwyr i’r claf, y GIG ehangach a’r trethdalwr i fuddsoddi mewn meddygaeth deulu.”

Dywedodd Dr Gareth Oelmann, cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru’r BMA: “Roedd BMA Cymru yn gwerthfawrogi’r cyfle i rannu gyda'r pwyllgor yr heriau sy’n wynebu meddygaeth deulu yng Nghymru, ac rydym yn croesawu cyhoeddi’r adroddiad. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu’n adeiladol â Llywodraeth newydd Cymru i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor meddygaeth deulu ac i helpu i gyflawni amcanion ein hymgyrch Achub Ein Meddygfeydd.”

Mae'r argymhellion allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Symud graddol rhai gwasanaethau dethol i ofal cychwynnol a chymunedol, gyda chyfnod o gyllido deuol i sicrhau diogelwch a pharhad.
  • Ffocws cryfach ar atal, gyda’r maes meddygaeth deulu yn ganolog.
  • Adolygiad brys o’r fformiwla ariannu meddygon teulu (Carr-Hill) ac amserlenni clir ar gyfer diwygio.
  • Safonau mynediad gwell at feddygon teulu, a lleihau dibyniaeth ar y “sgrialu am 8 y bore” i drefnu apwyntiad.
  • Cynllun gweithlu cenedlaethol i gynyddu a chadw'r gweithlu.

Mae'r adroddiad yn annog Llywodraeth newydd Cymru i weithredu'n gadarn i sicrhau y caiff meddygaeth deulu ei gefnogi'n briodol i ddarparu'r gofal sydd ei angen ar bobl - a hynny nawr ac ar gyfer y dyfodol.

Mwy am y stori yma 

Gwyliwch dystiolaeth fideo a roddwyd yn ystod yr ymchwiliad a darllenwch mwy am waith y Pwyllgor