Angen corff treftadaeth newydd i hyrwyddo hanes cyfoethog Cymru

Cyhoeddwyd 06/03/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen corff treftadaeth newydd i hyrwyddo hanes cyfoethog Cymru

6 Mawrth 2013

Dylid sefydlu corff treftadaeth newydd i ddiogelu a hyrwyddo cestyll, henebion a safleoedd hanesyddol eraill Cymru, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ei adroddiad ar amgylchedd hanesyddol Cymru, mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn dod i'r casgliad nad yw Cymru'n manteisio ar gyfleoedd i hyrwyddo ei hanes gan nad oes dull cydlynol o weithredu ar y mater hwn sy'n dwyn ynghyd gyrff sector cyhoeddus, sefydliadau trydydd sector fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a chwmniau sector preifat.

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu ambarél sy'n debyg i gyrff a sefydlwyd eisoes yn Lloegr a'r Alban.

Cododd y Pwyllgor bryderon hefyd ynghylch cynnig Llywodraeth Cymru i uno Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Yn ystod sesiynau casglu tystiolaeth, bu tystion yn cwestiynu a fyddai'n bosibl uno swyddogaethau gwahanol y ddau sefydliad hwnnw, ac yn cwestiynu a fyddai sgiliau ac arbenigedd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn cael eu colli. Mynegwyd pryder hefyd am amseriad y cynnig; cred rhai ei fod yn cael ei frysio, a hynny heb gynnal ymgynghoriad llawn.

Mae'r Pwyllgor wedi argymell bod Llywodraeth Cymru'n rhoi ystyriaeth lawn i'r pryderon hyn cyn bwrw ymlaen ag unrhyw gynlluniau i uno.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, "Yr wythnos diwethaf, bu Cymru'n dathlu Dydd Gwyl Dewi – dathliad o hanes a diwylliant Cymru.

"Mae achlysuron fel hyn yn ein hatgoffa bod gan Gymru dreftadaeth hynod o gyfoethog, a'i bod yn bosibl gweld ac ymchwilio i'r dreftadaeth hon drwy ymweld â'r cannoedd o gestyll, henebion a safleoedd hanesyddol eraill sydd ar gael ledled y wlad.

"Er mwyn helpu'r broses o hyrwyddo a diogelu safleoedd o'r fath, cafodd y Pwyllgor ei argyhoeddi ynghylch yr achos a wnaed dros gael ambarél i gynrychioli amgylchedd hanesyddol Cymru.

"Byddai corff o'r fath yn dwyn cyrff amrywiol ynghyd ac yn eu cynrychioli, a byddai'n chwarae rôl bwysig o ran cryfhau sefydliadau bach di-elw sy'n gweithio'n frwd i ddiogelu ein safleoedd hanesyddol ond nad sydd ag adnoddau na chefnogaeth corff cenedlaethol.

"I'r perwyl hwnnw, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu corff sydd â rôl debyg i'r sefydliadau sy'n bodoli eisoes yn Lloegr a'r Alban.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 14 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o sefydlu corff ambarél cynrychioliadol, fel English Heritage, i gynrychioli cyrff anllywodraethol yn y trydydd sector a'r sector preifat.

  • Cyn bwrw ymlaen ag unrhyw gynllun uno mewn perthynas â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, dylai Llywodraeth Cymru roi ystyriaeth lawn i'r pryderon a godwyd gan dystion arbenigol yn ystod yr ymchwiliad; a

  • Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu dulliau o sicrhau cydweithio gwell mewn perthynas â hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol.