Angen eiriolwyr strôc i fynd i’r afael â gwasanaethau yng Nghymru sy’n llusgo y tu ôl i weddill y Deyrnas Unedig
20 Ebrill 2010
Mae angen strategaeth unedig ac eiriolwyr strôc er mwyn mynd i’r afael â’r gwasanaethau strôc yng Nghymru sy’n llusgo ar ei hol hi, yn ôl adroddiad gan Bwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol y Cynulliad Cenedlaethol, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (19 Ebrill)
Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys creu mwy o unedau strôc dynodedig mewn ysbytai a rhoi’r gorau i’r loteri codau post ynghylch y cyfle i gael gwasanaethau arbenigol.
Roedd y pwyllgor yn gofidio hefyd nad oes cofrestr o gleifion strôc yng Nghymru, ac yn gofidio ynghylch lefelau annigonol hyfforddiant gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gysylltiedig â gwasanaethau strôc.
Hefyd, mae’r adroddiad yn amlygu’r angen am ddyraniad ariannol cliriach i’r gwasanaethau hyn, a mwy o waith i godi ymwybyddiaeth er mwyn mynegi’r negeseuon allweddol - megis bod modd atal strôc.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Darren Millar AC: “Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad i wasanaethau strôc yng Nghymru yn sgil cyfres o adroddiadau negyddol gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr yn 2004 a 2006.
“Yn anffodus, mae’n hymchwiliad ni’n dangos bod rhai o’r pryderon gwreiddiol a amlinellwyd gan yr archwiliadau allanol hyn heb gael sylw eto, er bod rhai gwelliannau wedi’u gwneud.
“Strôc yw’r trydydd achos marwolaeth mwyaf cyffredin, ac o gofio bod y dystiolaeth yn dangos bod gwelliannau penodol mewn gwasanaethau’n gallu lleihau marwoldeb ac anabledd ymhlith cleifion, mae’n hollbwysig y dylai’n hargymhellion ni gael eu rhoi ar waith er mwyn gwella gwasanaethau i’r rhai y mae strôc wedi effeithio arnyn nhw.
“Mae’r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried sefydlu strategaeth strôc i Gymru gyfan dan arweiniad eiriolwyr strôc neu arweinwyr tîm a all fynd i’r afael â’r materion hyn a chodi gwasanaethau Cymru i’r un lefel â gweddill y Deyrnas Unedig.”