Angen gweithredu er mwyn rhoi terfyn ar y loteri cod post cadeiriau olwyn - meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 20/05/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen gweithredu er mwyn rhoi terfyn ar y loteri cod post cadeiriau olwyn - meddai un o bwyllgorau’r Cynulliad

20 Mai 2010

Mewn adroddiad a gyhoeddir heddiw (20 Mai), mae Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y gwahaniaeth yn y ddarpariaeth o wasanaethau cadeiriau olwyn rhwng gogledd a de Cymru.

Cynhaliodd y grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad ymchwiliad chwe mis i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru, gan ganfod bod amseroedd aros am gadeiriau olwyn, yn enwedig ar gyfer defnyddwyr ag anghenion cymhleth, yn sylweddol hwy yng ngogledd Cymru nag yn y de.

Mae’r adroddiad yn cydnabod y gallai’r anghysondeb hwn fod o ganlyniad i’r ffaith nad oes ond dwy brif ganolfan Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar (ALAS) i wasanaethu Cymru gyfan; yn Wrecsam a Chaerdydd.

Ond mae’n nodi bod hyn yn annerbyniol ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae’n galw ar y Llywodraeth i lunio cynllun strategol er mwyn rhoi cyfeiriad i’r gwasanaeth.

Ymysg argymhellion eraill yr adroddiad mae; gwell integreiddiad o wasanaethau cadeiriau olwyn gyda gwasanaethau cymdeithasol, cymunedol a GIG eraill; cronni cyllidebau presennol er mwyn darparu offer ar gyfer defnyddwyr; dull o fonitro gwasanaethau sy’n fwy seiliedig ar berfformiad a strategaeth gyfathrebu well er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y system.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “I’r miloedd o ddefnyddwyr cadeiriau olwyn yng Nghymru, mae cael yr offer cywir ar yr adeg gywir yn golygu popeth.

“Mae pobl nad oes angen cadair olwyn arnynt yn cymryd gadael y ty, mynd i’r gwaith a chymdeithasu gyda ffrindiau yn ganiataol, ond ni all defnyddwyr cadeiriau olwyn wneud y pethau hyn os nad oes ganddynt yr offer priodol.

“Yn ystod yr ymchwiliad, clywsom rai sylwadau cadarnhaol am wasanaethau, ond mae’n amlwg bod problemau mewn llawer o feysydd, gan gynnwys amseroedd aros hir, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Hefyd clywsom mai defnyddwyr ag anghenion cymhleth, gan gynnwys plant, a all ddioddef y cyfnodau aros hwyaf.

“Mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd yr argymhellion sy’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn yn sicrhau y bydd defnyddwyr cadeiriau olwyn yng Nghymru’n cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu.

“Dylai defnyddwyr cadeiriau olwyn allu cael mynediad at wasanaeth amserol o safon uchel waeth beth fo’u hoed na ble maent yn byw yng Nghymru.”