Angen gwelliannau brys yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd – yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 02/12/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/12/2015

Mae angen gwelliannau brys i 'seilwaith sy'n heneiddio' yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd i ymdopi â gofynion digwyddiadau chwaraeon mawr yn y brifddinas, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Bu'r Pwyllgor Menter a Busnes yn edrych ar y problemau a gafodd rhai ymwelwyr â Chaerdydd o ran trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn gynharach eleni.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod pobl wedi bod yn ciwio am hyd at bedair awr i ddal trenau ar ôl y gêm gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm, er bod yr amser hwn wedi gostwng dros gyfnod y twrnamaint, gyda phobl yn aros am ddwyawr neu lai ar gyfer y pum gêm olaf o'r wyth gêm a gynhaliwyd yn y ddinas.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y gemau Cwpan Rygbi'r Byd yn wahanol i'r gemau a gaiff eu cynnal yn ystod Pencampwriaeth flynyddol y Chwe Gwlad, gan fod y rhan fwyaf o bobl a oedd yn teithio i Gaerdydd yn dod o'r dwyrain y tro hwn, gyda dim ond pump y cant o'r tocynnau ar gyfer gemau nad oedd Cymru'n chwarae ynddynt wedi'u gwerthu i gyfeiriadau yng Nghymru.

Dywedodd William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes, "Mae'n amlwg i'r Pwyllgor nad yw'r seilwaith sy'n heneiddio yn ardal Gorsaf Ganolog Caerdydd yn gallu ymdopi â'r galw gan niferoedd mawr o deithwyr mewn cyfnod byr, er enghraifft, ar ôl digwyddiad chwaraeon mawr."

"Hefyd, rydym o'r farn y dylai'r rhai sy'n ymwneud â rheoli trafnidiaeth a'r dorf yn ystod digwyddiadau o'r fath weithio'n fwy effeithiol a defnyddio'r holl ddulliau sydd ar gael.

"Mae agwedd gadarnhaol yn deillio o hyn, oherwydd ar gyfer y pum gêm rygbi olaf a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm, roedd boddhad ymwelwyr wedi gwella'n fawr, sy'n dangos bod camau wedi'u cymryd i leihau tagfeydd ac amseroedd aros.

"Gyda gêm derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2017, bydd llygaid y byd yn gwylio, a bydd cyfleoedd gwych i ddenu ymwelwyr o dramor ac i ymchwilio i gyfleoedd busnes.

"Mae'n hollbwysig felly ein bod yn gweithredu ar y gwersi a ddysgwyd yn ystod cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd er mwyn sicrhau y bydd pawb yn cael profiad pleserus o ddod i Gaerdydd."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud naw o argymhellion yn ei adroddiad (PDF, 563Kb), gan gynnwys:

  • Dylid ymgymryd â gwaith gwella capasiti yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd fel mater o frys;
  • Dylai'r holl randdeiliaid adolygu'r cynllun teithio ar gyfer digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd ar frys. Dylai hyn gynnwys camau i sicrhau bod un strwythur rheoli integredig ar waith;
  • Mae cyfathrebu'n allweddol - rhaid i drefnwyr digwyddiadau a chwmnïau trafnidiaeth wneud mwy o ymdrech i sicrhau y caiff cefnogwyr wybodaeth well am yr opsiynau sydd ar gael iddynt a'u disgwyliadau ynglŷn â chiwio; a,
  • Dylai teithio ar fwsiau fod â rôl amlycach o ran cynllunio teithio, yn arbennig tra bydd cyfyngiadau yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd.  Dylai hyn gynnwys defnyddio bwsiau fel prif ddull teithio, ond hefyd fel cynllun wrth gefn i leihau'r pwysau ar yr orsaf drenau.

Llun: Jeremy Segrott (Flickr) dan drwydded Creative Commons.