Angen gwneud mwy i ddatblygu potensial porthladdoedd a meysydd awyr Cymru i sbarduno’r economi

Cyhoeddwyd 04/07/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Angen gwneud mwy i ddatblygu potensial porthladdoedd a meysydd awyr Cymru i sbarduno’r economi

04 Gorffennaf 2012

Mae nifer o gyfleoedd i Lywodraeth Cymru fanteisio ar botensial porthladdoedd a meysydd awyr Cymru i sbarduno’r economi, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Canfu ymchwiliad gan y Pwyllgor Menter a Busnes y gallai Gweinidogion Cymru chwarae rhan yn y broses o sicrhau bod seilwaith a fyddai’n galluogi porthladdoedd a meysydd awyr Cymru i ffynnu.

Mae’r pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun strategol wedi’i seilio ar dystiolaeth ar gyfer datblygu trafnidiaeth awyr yng Nghymru. Mae hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i bwyso ar reolwyr maes awyr Caerdydd i fuddsoddi yn y gwaith o ddatblygu’r maes awyr ac i lunio cynllun newydd a fyddai’n blaenoriaethu gwasanaethau awyr, er mwyn cefnogi twristiaeth o’r tu allan i Gymru ac anghenion busnesau.

Mae’r pwyllgor yn argymell hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried pwysigrwydd porthladdoedd yng nghadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy a chefnogi mesurau i gynyddu cyfran Cymru o’r farchnad twristiaeth mordeithio.

Mae’r adroddiad yn cydnabod, er mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am bolisi ynghylch porthladdoedd a meysydd awyr, y gall pwerau a pholisïau Llywodraeth Cymru fod o ddefnydd mawr wrth ddatblygu porthladdoedd a meysydd awyr Cymru yn y dyfodol.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Mae porthladdoedd a meysydd awyr Cymru yn hanfodol i ddyfodol economi Cymru, ac mae ganddynt ran hollbwysig i’w chwarae yn y gwaith o ddatblygu cysylltiadau masnach a thwristiaeth.”

“Mae angen dull gweithredu mwy cyfannol, fel y gall polisïau ar borthladdoedd a meysydd awyr gyd-fynd yn well â pholisïau sy’n anelu at wella’r rhwydwaith trafnidiaeth cyfan.

“Rydym yn gwybod na all Llywodraeth Cymru gyflawni hyn i gyd ar ei phen ei hun, ond rhaid iddi ymgysylltu’n llawn â’r gwaith o ddatblygu polisïau ar lefel y DU. Mae hynny’n cynnwys arddel datganoli rhagor o bwerau er mwyn gallu llywio’r broses o ddatblygu porthladdoedd a meysydd awyr yn gynaliadwy yn well, a dylanwadu arni.”

Gellir dod o hyd i’r adroddiad llawn a rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Menter a Busnes yma.